Mae Digwyddiadau yng Nghymru yn cynrychioli diwydiant creadigol deinamig sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn gofyn am ystod eang o sgiliau o ansawdd uchel ym meysydd 

  • busnes a chyllid
  • marchnata
  • cyfryngau a chyfathrebu
  • cynhyrchu a chyflwyno digwyddiadau.

Mae sylfaen sgiliau gref yn hanfodol i ddatblygu diwydiant digwyddiadau cynaliadwy yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda diwydiant, addysg, darparwyr hyfforddiant a’r trydydd sector i wella galluoedd proffesiynol Cymru fel lleoliad digwyddiadau o safon byd.

Mae’r holl ddigwyddiadau rydym yn eu helpu yn cael eu hannog i gynnig profiad gwaith neu leoliadau i fyfyrwyr ynghyd â chyfleoedd gwirfoddoli o’r safon uchaf.

Cewch fwy o wybodaeth am gyfleoedd datblygu a gwirfoddoli ar y wefan isod.

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli mewn digwyddiadau mawr llwyddiannus ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd unigolion a chymunedau. Un o'n hamcanion yw cynyddu nifer ac amrywiaeth y gwirfoddolwyr o Gymru sy’n gweithio mewn digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Fel gyda hyfforddiant, rydym am weld cymaint o gyfleoedd gwirfoddoli â phosibl yn y digwyddiadau rydym yn eu helpu. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli fel rheol yn cael eu cyhoeddi ar wefannau’r digwyddiad unigol ond rydym hefyd yn annog digwyddiadau i hysbysebu cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Straeon Perthnasol

Gweinyddes yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor

Cymorth ac adnoddau sgiliau

Dewch o hyd i wybodaeth am y nifer o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael i helpu i ddatblygu’r sgiliau yn eich busnes.