unrhyw weithgarwch sy’n hyrwyddo profiad bwyd o safon uchel, unigryw, lleol a chynaliadwy sy'n gysylltiedig â lle arbennig

 

Mae Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Cymru 2015-2020 ar gael o hyd ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid a busnesau, gan eu hannog 

  • i dynnu sylw at fwyd a diod lleol/Cymreig i ymwelwyr 
  • i gynnig cynnyrch lleol/Cymreig ar fwydlenni ac mewn manwerthu.

Trwy gynnig profiad unigryw i ymwelwyr o fwyd a diod Cymru, bydd yn helpu i ddangos y gwahaniaeth rhwng eich busnes chi a’r busnesau sy’n cystadlu â chi.

Pecyn Twristiaeth Bwyd

Mae'r Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd wedi ei ddiweddaru - darganfyddwch pam fod twristiaeth bwyd yn bwysig i Gymru ac i'ch busnes yn ogystal ac awgrymiadau bwydlen a ryseitiau a llawer mwy.

Gwerth “Cymreictod”

Mae 9 o bob 10 o westeion i Gymru yn credu ei bod hi’n bwysig bod gan leoliadau ddewis da o brydau gyda chynhwysion Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o ymchwiladau i ddeall yn well "Gwerth Cymreictod" i siopwyr a gwesteion yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Mae pob darn o ymchwil yn dangos bod siopwyr a gwesteion yn dymuno cael mwy o Fwyd a Diod o Gymru mewn lleoliadau manwerthu a lleoliadau allan o'r cartref. Darllenwch am yr uchafbwyntiau yma i weld sut y gallwch elwa ar werth Cymreictod.

 

Straeon Perthnasol

Gweinyddes yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor

Cymorth ac adnoddau sgiliau

Dewch o hyd i wybodaeth am y nifer o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael i helpu i ddatblygu’r sgiliau yn eich busnes.