Er gwybodaeth, mae'n bosibl y byddwch yn dod o hyd i'r ateb i'ch ymholiad yn ein Cwestiynau Cyffredin.

1. Dechrau arni

I ychwanegu cofnod cynnyrch at wefan Croeso Cymru, bydd angen i chi sefydlu cyfrif yn ein System rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth.
Os nad oes gennych gyfrif, neu os hoffech siarad â rhywun am gael cofnod cynnyrch, e-bostiwch visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.

2. Diwygio cofnod

Gallwch ddiwygio'r manylion yn eich cofnod cynnyrch ar-lein gan ddefnyddio'ch cyfrif ar y System rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth. Os hoffech gael cymorth i ddefnyddio'r system, anfonwch e-bost at visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.

Ar ôl i chi fewngofnodi:

  • Cliciwch ar enw'r cofnod cynnyrch yr hoffech ei ddiweddaru. Neu gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Chwilio am Gynhyrchion’ i ddod o hyd i'r cofnod yr hoffech ei ddiweddaru.
  • I ddiwygio'ch cofnod, llenwch y meysydd a gwiriwch a chadwch bob adran wrth i chi fynd ymlaen.

 3. Gofynion achredu

Yn dibynnu ar eich math o fusnes, efallai y bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol:

4. Cymorth a chefnogaeth

I gael cymorth i fewngofnodi i system rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth neu ddiweddaru cofnod cynnyrch, cysylltwch â desg gymorth Stiward Data Croeso Cymru drwy e-bostio visitwaleshelp@granicus.com neu ffonio 0330 808 9410.

Awgrymiadau ar gyfer cofnod gwych:

  • Defnyddiwch ddisgrifiadau byr, gan gynnwys geiriau ac ymadroddion allweddol y gallai pobl eu defnyddio wrth chwilio ar-lein i'w helpu i ddod o hyd i'ch cynnyrch.
  • Soniwch am eich tref / rhanbarth agosaf.
  • Dylech osgoi ymadroddion generig fel “trysor cudd“ neu “bryniau gwyrddion”.
  • Defnyddiwch ddelweddau tirlun o ansawdd uchel (o leiaf 1920x1440 picsel).

Pam gweithio gyda Croeso Cymru?

Prif nod Croeso Cymru yw hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth. Mae'r System Rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth (TPDMS) yn gronfa ddata o atyniadau, llety, gweithgareddau, digwyddiadau, digwyddiadau'r diwydiant teithio a digwyddiadau busnes sy'n cefnogi gwelededd cynhyrchion a chwilio am gynhyrchion ar VisitWales.com. Yr amcan yw gwneud ymwelwyr yn ymwybodol o gynnyrch twristiaeth Cymru a darparu presenoldeb ar-lein i fusnesau twristiaeth yng Nghymru i hyrwyddo'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig (gweler ein 6 awgrym ar gyfer gweithio gyda Croeso Cymru)

Gall cael cofnod ar wefan Croeso Cymru helpu eich busnes i gyrraedd miloedd o ddarpar ymwelwyr sy'n cynllunio eu taith i Gymru.

Cyfleoedd y diwydiant teithio a marchnad busnes i fusnes

Os ydych chi'n gweithio gyda'r diwydiant teithio a'r farchnad digwyddiadau busnes, gellir rhestru eich busnes hefyd ar ein gwefannau ar gyfer y Diwydiant Teithio a Chwrdd yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Croeso Cymru mewn perthynas â chyfleoedd busnes i fusnes a TXGB e-bostiwch traveltradewales@gov.wales.

Sut mae fy nata yn cael eu rheoli?

Gweler ein Datganiad Prefiatrwydd a gwybodaeth cyfreithiol.

cwestiynau-cyffredinCwestiynau Cyffredin y Diwydiant

System Rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru

  • 1. Beth sy'n newydd am y System Rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch?

    Rydym wedi symud i System Reoli newydd ar gyfer Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth. Os oedd gennych gyfrif i olygu cofnod cynnyrch cyn mis Tachwedd 2025, bydd eich Enw Defnyddiwr yn aros yr un fath, ond mae'r URL i gael mynediad i'r gronfa ddata cynnyrch a diwygio'ch cofnod cynnyrch wedi newid

    Yr URL newydd yw - https://extranet-wales.newmindets.net/App/Extranet/Login.aspx Mewn gofnodwch a gwiriwch eich cofnodion cynnyrch ar y gronfa ddata ar gyfer VisitWales.com, traveltrade.visitwales.com a meetInwales.com.

  • 2. Sut ydw i'n gwybod a oes gen i gofnod cynnyrch?

    Mae'r gronfa ddata gyfan ar gyfer cofnodion cynnyrch ar visitwales.com wedi'i symud i'r system gronfa ddata newydd ar gyfer cynnyrch. Os oedd gennych gyfrif i fewngofnodi i'r gronfa ddata flaenorol, cyn mis Tachwedd 2025, yna bydd yr wybodaeth am y cynnyrch wedi'i symud i'r gronfa ddata newydd.


    Dylech fod wedi derbyn e-bost gan Simpleview Europe, sy'n masnachu fel Granicus Firmstep (ar ran Croeso Cymru), gyda gwybodaeth am sut i fewngofnodi i'ch cyfrif gan ddefnyddio'r system reoli newydd ar gyfer cofnodion cynnyrch. Os ydych chi'n cael problemau o ran cael gafael ar y system reoli, cysylltwch â Stiward Data Croeso Cymru drwy e-bostio visitwalessupport@granicus.com neu ffonio 0330 808 9410.

  • 3. Sut alla i gael mynediad i'r porth i adolygu neu ddiweddaru fy nghofnod?

    Gallwch gael mynediad i'r porth trwy fewngofnodi i'r System Rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth gan ddefnyddio'r URL hwnextranet-wales.newmindets.net/App/Extranet/Login.aspx. Ar y sgrin mewngofnodi, rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Os na allwch gofio eich cyfrinair, cliciwch ar ‘wedi anghofio fy nghyfrinair’. I ddiweddaru eich cofnod, llenwch y meysydd a gwiriwch a chadwch bob adran wrth i chi fynd ymlaen.

  • 4. A oes adnoddau ar gael i'm helpu i ddefnyddio'r adnodd a chael mynediad at hyfforddiant?

    Gallwch weld ein recordiad gweminar sy'n rhoi trosolwg o sut i ddefnyddio'r System Rheoli Cronfa Ddata newydd Cyflwyniad i DMS | Simpleview Europe neu edrychwch are ein cynghoriad. Am ganllawiau cam wrth gam mwy manwl, cysylltwch â Rheolwyr Data Cymru trwy anfon e-bost visitwalessupport@granicus.com.

  • 5. Beth ddylwn i ei wneud os oes angen cymorth arnaf?

    I gael cymorth i ddiweddaru neu fewngofnodi, cysylltwch â'n Stiwardiaid Data Croeso Cymru drwy e-bostio visitwalessupport@granicus.com neu ffonio 0330 808 9410.   

  • 6. Pam na allaf ddod o hyd i'm cofnod / rhestr ar y wefan?

    Os nad yw'ch cofnod yn ymddangos o chwiliadau pan fyddwch chi'n credu y dylai, rhowch wybod i ni a gallwn ymchwilio i hyn i chi.

    Dylech gynnwys manylion y paramedrau chwilio rydych chi wedi'u defnyddio. Er enghraifft:

    • Crynodeb: Trosolwg byr o'r chwiliadau a wnaethoch chi a'r ddyfais a ddefnyddiwyd.
    • Atodiadau: Unrhyw sgrinluniau, logiau neu ddogfennau perthnasol.
    • Gwybodaeth ychwanegol: Rhagor o fanylion a allai fod yn berthnasol neu'n ddefnyddiol.

Straeon Perthnasol