I ychwanegu cofnod cynnyrch at wefan Croeso Cymru, bydd angen i chi sefydlu cyfrif yn ein System rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth.
Os nad oes gennych gyfrif, neu os hoffech siarad â rhywun am gael cofnod cynnyrch, e-bostiwch visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.
Gallwch ddiwygio'r manylion yn eich cofnod cynnyrch ar-lein gan ddefnyddio'ch cyfrif ar y System rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth. Os hoffech gael cymorth i ddefnyddio'r system, anfonwch e-bost at visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.
- Mewngofnodwch i'r System rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth.
- Bydd angen eich Enw Defnyddiwr a'ch Cyfrinair arnoch.
- Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair neu os oes angen ei newid, cliciwch ar y ddolen ‘wedi anghofio fy nghyfrinair’.
- Os nad ydych chi'n gwybod eich enw defnyddiwr, e-bostiwch visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.
Ar ôl i chi fewngofnodi:
- Cliciwch ar enw'r cofnod cynnyrch yr hoffech ei ddiweddaru. Neu gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Chwilio am Gynhyrchion’ i ddod o hyd i'r cofnod yr hoffech ei ddiweddaru.
- I ddiwygio'ch cofnod, llenwch y meysydd a gwiriwch a chadwch bob adran wrth i chi fynd ymlaen.
Yn dibynnu ar eich math o fusnes, efallai y bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol:
- Llety: Rhaid ei fod wedi'i achredu drwy gynllun Graddio Croeso Cymru neu'r AA.
- Atyniadau: Argymhellir cymryd rhan yng Nghynlluniau Ansawdd Atyniadau Croeso Cymru
- Darparwyr Gweithgareddau: Efallai y bydd angen sicrwydd drwy Gynllun Sicrhau Gweithgareddau Antur Croeso Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, e-bostiwch: quality.tourism@gov.wales
- Digwyddiadau: Rhaid bodloni meini prawf Digwyddiadau Croeso Cymru.
Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac eisiau cael eich rhestru ar visitwales.com, llenwch y ffurflen gyfatebol isod
Llety: I restru eich llety, ewch i'r dudalen Cynlluniau Ansawdd am fanylion llawn neu anfonwch e-bost at quality.tourism@llyw.cymru.
Mae digwyddiadau yn cael eu harddangos ar wefan Croeso Cymru drwy ein Cronfa Ddata Digwyddiadau. Os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei restru ar croesocymru.com rhaid iddo fodloni'r meini prawf a nodir isod.
I ychwanegu rhestr o ddigwyddiadau at wefan Croeso Cymru, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen Cyflwyno Dal Data Digwyddiad hon neu os hoffech help i lenwi'r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at ein desg gymorth: visitwalessupport@granicus.com neu ffoniwch 0330 808 9410.
I gael gwybodaeth am sut rydym yn cadw eich data'n ddiogel, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (Saesneg yn unig) a thelerau ac amodau cyfreithiol Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru (Saesneg yn unig).
I gael cymorth i fewngofnodi i system rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth neu ddiweddaru cofnod cynnyrch, cysylltwch â desg gymorth Stiward Data Croeso Cymru drwy e-bostio visitwalessupport@granicus.com neu ffonio 0330 808 9410.
Prif nod Croeso Cymru yw hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth. Mae'r System Rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth (TPDMS) yn gronfa ddata o atyniadau, llety, gweithgareddau, digwyddiadau, digwyddiadau'r diwydiant teithio a digwyddiadau busnes sy'n cefnogi gwelededd cynhyrchion a chwilio am gynhyrchion ar VisitWales.com. Yr amcan yw gwneud ymwelwyr yn ymwybodol o gynnyrch twristiaeth Cymru a darparu presenoldeb ar-lein i fusnesau twristiaeth yng Nghymru i hyrwyddo'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig (gweler ein Cynghorion da ar sut i greu cofnod da)
Gall cael cofnod ar wefan Croeso Cymru helpu eich busnes i gyrraedd miloedd o ddarpar ymwelwyr sy'n cynllunio eu taith i Gymru.
Cyfleoedd y diwydiant teithio a marchnad busnes i fusnes
Os ydych chi'n gweithio gyda'r diwydiant teithio a'r farchnad digwyddiadau busnes, gellir rhestru eich busnes hefyd ar ein gwefannau ar gyfer y Diwydiant Teithio (Saesneg yn unig) a Chwrdd yng Nghymru (Saesneg yn unig).
I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Croeso Cymru mewn perthynas â chyfleoedd busnes i fusnes a TXGB e-bostiwch traveltradewales@gov.wales.
Sut mae fy nata yn cael eu rheoli?
Gweler ein Datganiad Prefiatrwydd a gwybodaeth cyfreithiol.