Rydym yn croesawu ceisiadau i restru digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghymru. Bydd digwyddiadau yn cael eu harddangos ar wefan Croeso Cymru drwy ein Cronfa Ddata Digwyddiadau.

Gwybodaeth bwysig

Gwiriwch fod eich digwyddiad yn bodloni'r meini prawf  cyn llenwi'r ffurflen hon (os ydych chi'n cyflwyno digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi mae'r meini prawf ychydig yn fwy hyblyg er enghraifft: rhaid denu o leiaf 50+ o fynychwyr).

Mae angen i ddelwedd y digwyddiad fod o leiaf 1920 x 1440 picsel o ran maint.

Defnyddiwch gyfeiriad e-bost neu rif ffôn y gall aelod o'r cyhoedd gysylltu â nhw ynglŷn â'r digwyddiad. 

Rydym yn cadw'r hawl i olygu neu wrthod rhestru digwyddiadau. Os nad ydych yn siŵr a yw'ch digwyddiad yn bodloni'r meini prawf neu os hoffech gael rhywfaint o gymorth, cysylltwch â'n desg gymorth trwy e-bost: visitwalessupport@granicus.com neu ffoniwch: 0330 808 9410

Bydd pob digwyddiad yn cael ei wirio cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi.

Bydd eich data yn cael ei storio yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Gweler ein Telerau ac Amodau Cyfreithiol a'n Polisi Preifatrwydd

Straeon Perthnasol