Ar gyfer rhai Digwyddiadau Busnes, efallai y bydd rhywfaint o gymorth ariannol cyfyngedig ar gael, i gefnogi trefnwyr digwyddiadau a chynllunwyr sy'n bwriadu dod â digwyddiadau i Gymru.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan wahanol fathau o sefydliadau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; trefnwyr digwyddiadau, canolfannau confensiwn / sefydliadau rheoli cyrchfan, prifysgolion, neu gymdeithasau.

Derbynnir cynigion am gymorth o £5,000 hyd at £25,000 fesul digwyddiad/cais. Byddwn yn ystyried cymorth sy'n uwch na'r swm hwn ond mae'n amodol ar y gyllideb sydd ar gael a rhaid cael  achos busnes cryf i gefnogi’r cais.

Mae'r costau y tybir eu bod yn gymwys i'w hystyried yn cynnwys:

  • Costau eilradd y lleoliad (gan gynnwys costau cymorth AV, technegol / hybrid ond heb gynnwys unrhyw gostau bwyd a diod oni bai bod yr ymdeimlad o le yn cael ei wella drwy hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru, bwydlenni dwyieithog ac adloniant Cymraeg fel rhan o'r cynnig digwyddiad ayyb
  • Marchnata lle mae Cymru'n cael ei hyrwyddo
  • Costau marchnata cyn-ddigwyddiad fel cymdeithasol ar gyfer cofrestriadau cynrychiolwyr
  • Costau trosglwyddo cynrychiolwyr fel costau cymorth cludiant lle bo hynny'n addas ac yn ofynnol ar gyfer angen y digwyddiad
  • Costau siaradwr (e.e. i gefnogi costau teithio siaradwyr rhyngwladol)
  • Profiadau gwella h.y. teithiau wedi'u curadu/ymweliadau ag atyniadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad busnes i hyrwyddo cynnig a diwylliant cynnyrch Cymru ymhellach
  • Unrhyw eitem arall o wariant a ystyrir yn hanfodol i helpu i gyflwyno'r gynhadledd yng Nghymru.

Mae'r costau a fyddai'n cael eu heithrio o gymhwysedd yn cynnwys

  • Ffioedd Rheoli Digwyddiadau i drefnu a chynnal y digwyddiad busnes
  • Costau gwirioneddol ar gyfer bwyd, diod, llogi y lleoliad a llety
  • Ffitiadau a gosodiadau rhydd h.y. eitemau y gellir eu defnyddio mewn digwyddiadau busnes yn y dyfodol a gynhelir y tu allan i Gymru
  • Ni ellir rhoi cefnogaeth ôl-weithredol ar gyfer gweithgaredd a wneir cyn cymeradwyo cais a derbyn Llythyr Cynnig

Mae yna hefyd faen prawf penodol mae ceisiadau'n cael eu hasesu ac mae'n rhaid iddynt gyd-fynd â'n Strategaeth Digwyddiadau Genedlaethol ar gyfer Cymru 2022-2030 i'w hystyried ar gyfer cyllid.

Am arweiniad pellach, a meini prawf ar gyfer cyllido, darllenwch ganllawiau a meini prawf ariannu llawn ein Cynllun Sbarduno Digwyddiadau Busnes.

Straeon Perthnasol