Dywedwch wrthym am eich busnes
Os oes gennych leoliad, llety, gweithgaredd, profiad neu wasanaeth sy'n cyd-fynd â'r farchnad digwyddiadau busnes a'ch bod eisoes yn hyrwyddo'ch busnes, neu eisiau dechrau hyrwyddo'ch busnes, rydym am glywed gennych. O gymhellion safon uchaf neu weithgareddau adeiladu tîm, megis profiadau bwyta, teithiau wedi'u curadu neu brofiadau a gweithgareddau diwylliannol addysgol ac adrenalin, mae cyfle i hyrwyddo'ch busnes i'r farchnad broffidiol hon.
Cysylltwch â ni yn Cwrdd yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cael sylw ar wefan Meet In Wales
Oeddech chi'n gwybod bod gennym Gronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth pwrpasol ar gyfer digwyddiadau busnes ar wefan meetinwales.com?
Mae ein swyddogaeth chwilio yn galluogi ein cronfa ddata fyd-eang o drefnwyr, cynllunwyr ac asiantaethau digwyddiadau busnes i ddod o hyd i gynhyrchion addas yng Nghymru i greu eu rhaglen digwyddiadau busnes nesaf.
Gan fod gan gwmnïau rhyngwladol wybodaeth gyfyngedig am gynhyrchion a phrofiadau perthnasol sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau busnes, mae'n bwysig arddangos a dangos eich cynnig.
Darparwch cymaint o wybodaeth ag y gallwch i ddenu diddordeb gan gynnwys delweddau perthnasol o'r farchnad o weithgareddau corfforaethol, cynlluniau ystafelloedd gyda niferoedd ac argaeledd ar gyfer grwpiau mwy. Sicrhewch eich bod yn cynnwys e-bost cyswllt perthnasol neu rif ffôn i ddelio ag ymholiadau corfforaethol yn y farchnad a all fod angen ymateb cyflym yn aml.
Cofiwch ymgysylltu a chydweithio â busnesau eraill sydd wedi'u rhestru yn eich lleoliad sy'n ategu eich cynnyrch i wella'r cynnig rhanbarthol ar gyfer arosiadau a phrofiadau hirach.
Os oes gennych restr eisoes, cofiwch ei wirio o bryd i'w gilydd a'i ddiweddaru. Neu cysylltwch â ni yn Cwrdd yng Nghymru i gofrestru rhestr.
Danfonwch astudiaethau achos perthnasol a diddorol atom neu sampliau o deithiau digwyddiadau busnes llwyddiannus, byddem wrth ein bodd yn eu rhannu ar ein gwefan fel erthyglau, i annog mwy o gynllunwyr a threfnwyr i ddewis Cymru ar gyfer eu digwyddiad busnes nesaf.
Rhannwch eich diweddariad cynnyrch a'ch newyddion gyda ni
Cofiwch rannu eich newyddion a'ch datblygiadau i'w cynnwys ar ein tudalen newyddion ar y wefan, e-newyddion a diweddariadau cynnyrch, fel y gallwn rannu eich cynnig busnes gyda'r farchnad digwyddiadau busnes rhyngwladol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn danfon y wybodaeth atom ymhell cyn unrhyw ddyddiad lansio neu agor i productnews@gov.wales gan fod y farchnad yn cynllunio rhwng 12 mis a 6 blynedd cyn eu digwyddiad busnes. Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau perthnasol gyda'n cyfoedion, VisitBritain a'n hasiantaeth digwyddiadau busnes penodol Eight PR.
Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol
Mae gennym sianeli cyfryngau cymdeithasol penodol gyda chynulleidfa ryngwladol o gynllunwyr, prynwyr ac asiantaethau digwyddiadau busnes yn ein dilyn.
Dywedwch wrthym ymlaen llaw am eich cynlluniau ymgyrchu perthnasol a'n tagio neu ein crybwyll yn eich postiadau cymdeithasol fel y gallwn helpu i rannu eich neges a rhoi hwb i'ch cynhyrch i'n cynulleidfa ryngwladol.
Peidiwch ag anghofio defnyddio'r # perthnasol i gefnogi cyrhaeddiad ehangach i'r farchnad fel #eventprofs #businessevents #MICE #meetingprofs #businesstravel #meetinwales.
Neu i dargedu ardaloedd marchnad penodol defnyddiwch y #incentivetravel #associations #teambuilding #corporateevents #meetings
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar
Cefnogwch ni drwy ddangos eich cynnig
Mae ymweliadau ymgyfarwyddo yn ein galluogi i adeiladu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a pherthynas yn y farchnad â chyflenwyr Cymru ac mae'n creu profiad a chof cadarnhaol a pharhaol i brynwyr, cynllunwyr ac asiantaethau nad ydynt efallai'n gyfarwydd â'n cynnyrch, ein diwylliant a'n gwlad.
Cefnogwch ni a'n DMC (Cwmnïau Rheoli Cyrchfan), PCOs (Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol), DMOs (Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau) a'n gweithredwyr pan fyddwn yn dod â'r Diwydiant Digwyddiadau Busnes domestig a Rhyngwladol i Gymru. Mae creu dull gweithredu tîm cydweithredol Cymru yn rhoi sicrwydd o ymddiriedaeth yn y farchnad digwyddiadau busnes ac yn atgyfnerthu bod Cymru yma i gynnal digwyddiadau busnes eithriadol a chofiadwy.
Croesawch y prynwyr a darparwch gwybodaeth perthnasol am eich cynnig ar gyfer y farchnad digwyddiadau busnes, yna dilynwch i fyny gyda'r prynwr fel bod ganddynt eich manylion wrth law ar gyfer unrhyw gyfle busnes posibl.
Rhannwch adborth i ni ac adrodd nol am unrhyw enillion busnes sydd wedi eu gwireddu o'n hymyriadau gyda'r farchnad i'ch busnes, p'un a yw hynny'n gyfeiriad e-bost, cyflwyniad wyneb yn wyneb neu ymweliad safle.
Arddangos a chydweithio gyda'r diwydiant digwyddiadau busnes
Rydym i gyd yn gwybod pwysigrwydd datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol i sicrhau a chadw busnes. Mae yna ystod eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan, o gyfleoedd aelodaeth - datblygu gwybodaeth a mewnwelediadau i gydweithio a rhannu arfer gorau o anghenion y farchnad, i gwrdd â phrynwyr, asiantaethau a chynllunwyr digwyddiadau busnes, gyda phŵer prynu go iawn.
Rhaglen Cynhadledd Llysgennad Cymru
Mae ein Rhaglen Gynadledda Llysgennad Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol o unigolion preifat dylanwadol o feysydd fel y byd academaidd, meddygol a busnes sydd, tra'n arwain yn eu maes proffesiynol eu hunain, yn neilltuo amser a brwdfrydedd personol i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan cyfarfod a digwyddiadau drwy chwilio am gyfleoedd i Gymru nodi, mynd ati, cyflwyno a chynnig am gyfleoedd digwyddiadau busnes Fyd - eang.
Mae aelodau Llysgennad Cymru yn cydnabod natur fyd-eang ein cynnig busnes ac academaidd a manteision economaidd a chymdeithasol cynnal Digwyddiadau Busnes yng Nghymru.
Os ydych chi'n gweithio neu'n adnabod rhywun a fyddai â diddordeb ac sydd yn
- Arweinydd mewn cymdeithas fasnach neu gymdeithas arbenigol neu gymdeithas broffesiynol
- Yn gweithio er budd dielw neu elusennol arwain busnes masnachol neu grŵp diwydiant penodol
- Gweithio mewn lleoliad academaidd ochr yn ochr â chydweithwyr rhyngwladol
hoffem glywed oddi wrthych.
I ddeall mwy am ein Rhaglen Gynhadledd Llysgennad Cymru, i gofrestru eich diddordeb neu i rannu gyda rhywun rydych yn ei adnabod a allai fod â diddordeb yn ymuno â'n rhaglen genedlaethol, anfonwch e-bost at y tîm neu ffoniwch ni ar +44 029 2166 1018.