Y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fenywod i gael ei gynnal yng Nghymru
Yr haf hwn, yn ystod ein Blwyddyn Croeso, bydd Cymru yn cynnal digwyddiad golff rhyngwladol mawr . Mae digwyddiadau rhyngwladol mawr sy'n dod i Gymru yn cynnig cyfle i gyflwyno Cymru ar raddfa fyd-eang a chroesawu ymwelwyr rhyngwladol. Dyma'r tro cyntaf i'r Bencampwriaeth Golff gael ei chynnal yma ac fel y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf yng Nghymru, bydd yn denu ymwelwyr a golffwyr gorau'r byd i un o'n cyrsiau gorau ac i'n harfordir trawiadol.
Cymerwch Rhan
Dewch draw, profi hwyl (Saesneg yn unig) y Bencampwriaeth – mae rhagor o gwybodaeth ar gael ar wefan Visit Wales (Saesneg yn unig) a mae tocynnau ar gael ar Clwb Golff Brenhinol Porthcawl | Pencampwriaeth Agored AIG i Fenywod (Saesneg yn unig).
Helpwch ni i hysbysu ymwelwyr a chwsmeriaid am y digwyddiad, gwybodaeth am docynnau, a chyfleoedd i wylio golff a phethau eraill i'w gwneud yng Nghymru:
- Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Pencampwriaeth Agored AIG a rhannu newyddion am y digwyddiad
- Lledaenwch y gair trwy eich cylchlythyrau eich hunain
- Rhannwch syniadau am greu llwybr golff eich hun yng Nghymru Llwybrau’r Bencampwriaeth Golff yng Nghymru
Bydd chwaraewyr ac ymwelwyr yn dod o bob cwr o'r byd ac o bosibl yn teithio ac aros i brofi gweithgareddau eraill. Gwnewch yn siŵr bod eich manylon ar restr croesocymru.com yn gyfredol fel y gall ymwelwyr ddod o hyd iddo ac archebu. Gallwch ei newid ar y rhestr cynnyrch.

