Helpu eich busnes i wneud y mwyaf o ymweliadau llongau mordeithio

Gyda chynnydd o dros 100% mewn ymweliadau mordeithiau yn 2025, mae Cymru’n dod yn gyrchfan bwysig ar gyfer mordeithiau. Mae ffigurau newydd yn dangos cynnydd clir yn nifer yr ymweliadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae pob ymweliad yn dod â miloedd o ymwelwyr i Gymru, gan greu cyfleoedd newydd i fusnesau twristiaeth a chyrchfannau ar hyd yr arfordir ac yn yr ardaloedd cyfagos.

Mae Cruise Wales yn gweithio gyda phorthladdoedd, cyrchfannau a phartneriaid y diwydiant i’ch helpu i wneud y gorau o bob ymweliad. O gynllunio ymlaen llaw i gynnig croeso Cymreig cynnes, rydym yn cefnogi busnesau i:

  • denu ac ymgysylltu ag ymwelwyr mordeithiau
  • creu profiadau cofiadwy o safon uchel
  • annog pobl i aros yn hirach ac i ddychwelyd i Gymru.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud y mwyaf o werth twristiaeth mordeithiau – gan gefnogi economïau lleol a dangos y gorau o Gymru. 

Darganfyddwch sut y gallwch wneud y gorau o’r cyfle hwn drwy:

  • Manteisio ar y cyfle ar gyfer twristiaeth Cymru

    Mae pob ymweliad mordeithio yn dod ag ymwelwyr sydd eisiau crwydro, siopa a mwynhau Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i fusnesau twristiaeth gynyddu nifer yr ymwelwyr a hybu gwariant lleol.

    Gall ymwelwyr ymuno â theithiau trefnedig neu crwydro trefi a phentrefi ar eu pen eu hunain. Pa un bynnag, gall y diwrnodau hyn roi hwb sylweddol i fusnesau lleol, cynnyrch twristiaeth a phrofiadau.

    Gall twristiaeth mordeithiau gynnig:

    - mwy o ymwelwyr ar ddiwrnodau cyrraedd allweddol

    - cyfleoedd i werthu teithiau a phrofiadau

    - mwy o amlygrwydd i’ch cyrchfan a’ch cynnyrch

    - y cyfle i droi ymwelwyr newydd yn ymwelwyr sy’n dychwelyd.

    Drwy weithio gyda’n gilydd, gall porthladdoedd, cyrchfannau a busnesau wneud y gorau o bob ymweliad. Gan ledaenu’r buddion i gymunedau lleol a chreu argraff barhaol o Gymru.

  • Gwirio’r calendr mordeithiau a bod yn barod ar gyfer ymwelwyr mordeithiau

    Mae paratoi ymlaen llaw yn allweddol i wneud y gorau o ymweliadau mordeithiau. Dyma rai ffyrdd syml o baratoi:

    - gwirio calendr galwadau Cruise Wales i weld pryd mae llongau’n cyrraedd

    - agor eich busnes neu atyniad ar ddiwrnodau mordeithiau lle bo modd

    - briffio staff fel eu bod yn gallu croesawu ymwelwyr ac ateb cwestiynau

    - arddangos profiadau lleol, bwyd, diwylliant a straeon

    - rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid ac annog ymgysylltiad lleol.

    Mae sefydliadau rheoli cyrchfannau, awdurdodau lleol a phartneriaid diwydiant i gyd yn helpu busnesau i baratoi a gwneud y gorau o’r cyfleoedd hyn.

    Calendr Cruise Wales (Saesneg yn unig)
  • Darparu croeso Cymreig cynnes ac naws am le Cymreig

    Efallai mai dim ond amser byr y mae teithwyr mordeithiau yn ei dreulio ar y lan – ond mae’r amser hwnnw’n bwysig iawn.

    Mae creu naws am le Cymreig yn helpu ymwelwyr i gysylltu â Chymru, ei phobl a’i diwylliant. Mae croeso Cymreig cynnes, straeon clir a phrofiadau lleol unigryw i gyd yn helpu i greu hwyl, gan adael argraff barhaol ac arwain at ymweliadau yn y dyfodol.

    Darganfyddwch sut y gallwch greu naws am le Cymreig yn eich busnes.

    Awgrymiadau ar sut i greu naws am le Cymreig yn eich busnes

Straeon Perthnasol

Halen Môn, Ynys Môn

Creu hwyl drwy Naws am Le

Mae'r ymgyrch hwyl yn dathlu croeso cynnes Cymru - gan wahodd ymwelwyr i brofi eiliadau llawen a theimlad dwfn o Gymreictod trwy'r holl synhwyrau.

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw