Byddwch yn rhan o'r ymgyrch Pethau Bychain
Mae'r ymgyrch Pethau Bychain yn ddathliad hwyliog ar y cyfryngau cymdeithasol o’n cenedl. Mae'n tynnu sylw at y pethau da, ei’n cymunedau ac ei’n byd.
Mae’r Pethau Bychain yn:
- Hawdd i’w gwneud, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr
- Dathlu ein pobl a’n traddodiadau
- Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud diwrnod rhywun ychydig yn well
Sut i gymryd rhan:
- Dewiswch un o’r Pethau Bychain o’r rhestr llawn
- Dilynwch a tagiwch ni ar @cymraeg, @Walesdotcom a @CroesoCymruDiwydiant ar y cyfryngau cymdeithasol
- Rhannwch y Pethau Bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi gan ddefnyddio #pethaubychain a #randomactsofwelshness
Galw ar drefnwyr digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi
Mae Croeso Cymru yn datblygu ymgyrch arbennig Dydd Gŵyl Dewi, ac rydym yn awyddus iawn i dynnu sylw at y dathliadau a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru.
Os ydych yn trefnu digwyddiad ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gallwch ei restru am ddim ar VisitWales.com
Tynnwch sylw at eich digwyddiadau ar wefan Croeso Cymru.
Bydd hyn nid yn unig yn helpu i ysbrydoli mwy o bobl i ymweld â eich rhanbarth yn ystod y Gwanwyn, ond hefyd yn rhoi cyfle i chi gyrraedd cynulleidfa ehangach sy’n defnyddio ein gwefan yn weithredol i gynllunio eu dathliadau.
Edrychwch ar sut y gall eich digwyddiad gael ei gynnwys, a darganfyddwch syniadau gwych i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Adnoddau’r ymgyrch ar gyfer eich busnes
I’ch helpu i gymryd rhan, rydyn ni wedi creu pecyn llawn o adnoddau wedi’u cynllunio ar gyfer y diwydiant twristiaeth — yn ddelfrydol i’ch helpu i rannu cynnwys gyda’ch ymwelwyr.
Mae adnoddau'r ymgyrch yn cynnwys:
Newydd i 2026: Galwch y ddraig goch i ymddangos yn eich profiad ymwelwyr
Eleni, rydym yn dangos Cymru ar ei gorau gyda’n ap AR newydd, Galw'r Ddraig Goch, a grewyd gan Sugar Creative.
Defnyddiwch eich ffôn symudol i gyflwyno’r ddraig goch rhithiol sy'n chwythu tân i unrhyw fan o’ch dewis a’i ffilmio’n crwydro’r lleoliad — yn eich atyniad, eich gwesty neu’ch lleoliad digwyddiadau, a’i ffilmio’n crwydro.
We’re calling on industry partners worldwide to:
- Recordiwch y ddraig mewn lleoliad eiconig.
- Rhannwch ar y cyfryngau cymdeithasol
- Tagiwch @Walesdotcom
Hoffem ddangos y ddraig yn teithio o gwmpas y byd erbyn y 1 o Fawrth.
CerddoriaethRhestrau chwarae cerddoriaeth Gymraeg i deimlo'r hwyl
Creu naws arbennig gyda rhestri chwarae Cymreig, perffaith ar gyfer gwestai, caffis, digwyddiadau a mannau cymdeithasol:
- Ymlacio | Spotify - Ymlaciwch gyda cerddoriaeth Dydd Miwsig Cymru. Yn berffaith ar gyfer creu naws dawel yn eich canolfannau ymwelwyr, lleoliadau lles, caffis neu lety.
- Gyrru, Gyrru, Gyrru | Spotify - Detholiad o glasuron hen a thraciau modern i wrando arnynt wrth deithio ar hyd ffyrdd a llwybrau Cymru. Artistiaid o bob cwr o’r wlad, gyda chaneuon a fydd yn ychwanegu at unrhyw daith.
- O Gymru | Spotify - Cerddoriaeth orau Cymru i greu naws o Gymreictod yn eich llety, gwestai, caffis neu ddigwyddiadau.
Mae’r holl restrau chwarae ar gael ar Spotify.