Deall pwy yw ein cynulleidfa

Mae deall ein cynulleidfa yn hanfodol. Mae ein hymgyrch Hwyl wedi'i seilio ar fewnwelediadau a data sy'n ein galluogi i ddeall pwy yw ein cynulleidfa. Trwy addasu ein cynnwys i ddiwallu eu hanghenion, gallwn wella ymgysylltiad, meithrin cysylltiadau cryf, a chyflawni canlyniadau rhagorol. Mae cynnwys personol, perthnasol yn sicrhau bod ein neges yn taro dant, gan annog rhyngweithio a theyrngarwch. Gellir ddefnyddio'r dull hwn yn eich ymdrechion marchnata eich hun. Ar gyfer yr ymgyrch Hwyl yn y DU, rydym yn canolbwyntio ar Fforwyr Annibynnol sydd yn:

  • Archwilwyr diwylliannol Cliciwch ar y gwymplen am fwy o wybodaeth a gweld enghraifft o bost ar Instagram.

    Gŵyl 'Between the Trees', Coed Candleston, Merthyr Mawr, De Cymru.
    • Yn mwynhau cerddoriaeth fyw, theatr, bwyta allan, hanes ac amgueddfeydd. 

    • Rhwng 25 a 44 oed yn bennaf, yn byw gyda'u partner a heb blant. 

     

    Cliciwch isod i weld reel Instagram o benwythnos gyda Mared yng ngŵyl Sŵn, Caerdydd.

    Penwythnos gyda Mared yng ngŵyl Sŵn, Caerdydd
  • Teuluoedd Cliciwch ar y gwymplen am fwy o wybodaeth a gweld enghraifft o reel ar Facebook.

    Castell Rhuddlan, Sir Ddinbych.
    • Yn chwilio am weithgareddau a llety sy'n addas ar gyfer pob oedran. 

    • Mwynhau teithio, gweithgareddau awyr agored a bwyta allan. 

    • Rhwng 35 a 54 oed yn bennaf, gydag un i dri phlentyn. 

     

    Cliciwch isod i weld reel ar Facebook, yn rhannu diwrnod allan perffaith i deulu yn Ngŵyl Amgueddfa Cymru.

    Taith Lisa Angharad a'i theulu i Amgueddfa'r Fenni
  • Selogion awyr agored Cliciwch ar y gwymplen am fwy o wybodaeth a gweld enghraifft o post ar TikTok.

    Rafftio Dŵr Gwyn, Llandysul.
    • Yn angerddol am natur a gweithgareddau awyr agored. 

    • Diddordeb mewn bywyd gwyllt, chwaraeon antur, a chwaraeon eithafol.  

    • Rhwng 16 a 35 oed yn bennaf, gyda chymysgedd o rai sydd â phlant a heb blant. 

     

    Cliciwch isod i weld post TikTok yn dangos y gweithgareddau antur sydd ar gael yng Nghymru (Saesneg yn unig).

    Cymru: Anturiaethau i bawb
Dyn yn mwynhau encil moethus yn Y Nyth, bwthyn to tyweirch ger Bleddfa, Canolbarth Cymru.
Mam a phlentyn yn mwynhau paned a hufen iâ yn Coffi Co, Bae Caerdydd.
Delwedd o'r bwyd yn Y Sospan, Dolgellau.
The Nest, ger Bleddfa, Canolbarth Cymru | Coffi Co, Bae Caerdydd | Y Sospan, Dolgellau.

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw