Cefndir

Ers sawl blwyddyn mae arolygon Stoc Welyau Llety yn faes lle ceir cydweithrediad cadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Phartneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol. Mae'r arolygon wedi'u hariannu ar y cyd ac wedi'u cynnal yn unol â dull safonol (gan ddefnyddio holiaduron a diffiniadau safonol), gyda'r canlyniadau yn cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol unigol i'w coladu'n ganolog gan Lywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig at ddibenion cynllunio a buddsoddi, yn arbennig ar lefelau lleol.

Methodoleg

Roedd pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am gasglu data ar ddarparwyr llety yn eu hardal gan ddefnyddio holiaduron a diffiniadau safonol a choladwyd y data hyn gan Lywodraeth Cymru i'w dadansoddi ymhellach.

Bwriedir i'r ymarfer casglu data roi darlun mor gyflawn â phosibl o'r cyflenwad o lety ymwelwyr yng Nghymru ac, felly, cysylltir â phob darparwr llety a gofynnir iddo gwblhau'r arolwg. Fodd bynnag, nid yw'n ymarferol bosibl nodi a chasglu data gan bob busnes ac, felly, y ffigurau yn yr adroddiad hwn sy'n rhoi'r ‘ciplun’ gorau sydd ar gael o'r cyflenwad o lety ar adeg benodol. Rhoddir y ffigurau a ddangosir yn yr adroddiad hwn yn ddidwyll yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol ond gall fod rhai anghysondebau o ran y ffordd y mae llety wedi'i gategoreiddio.

Mae'r ffigurau ar gyfer y stoc welyau yn rhoi uchafswm nifer y gwelyau sydd ar gael, er y gall rhai lleoliadau fod ar gau neu'n rhannol ar gau ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn sy'n golygu nad yw pob ystafell, uned na gwely a gyfrifwyd ar gael bob amser. Yn benodol, mae safleoedd carafannau a gwersylla yn debygol o fod yn gweithredu'n dymhorol ac o fod ar gau neu'n gweithredu gyda llai o welyau yn ystod y gaeaf.

Nifer y lleoliadau yn ôl y categori o lety yn ôl awdurdod lleol

Straeon Perthnasol