Yr Ystadegau Blynyddol Diweddaraf: Cymru yn 2023

Yn 2023, aeth trigolion o Brydain ar 117.38 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 340.17 miliwn o nosau a gwario cyfanswm o £31.25 biliwn. Gwnaed 8.44 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru lle treuliwyd 24.47 miliwn o nosau a gwariwyd cyfanswm o £2.02 biliwn. Bu gostyngiad o 3% yn nifer y tripiau o’u cymharu â 2022, er i wariant godi 7%.

Tripiau, nosau a gwariant yng Nghymru yn ôl pwrpas yr ymweliad yn 2023

Cymru yn 2022

Yn 2022, aeth trigolion o Brydain ar 123.49 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 375.16 miliwn o nosau a gwario cyfanswm o £31.98 biliwn. Gwnaed 8.65 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru lle treuliwyd 25.94 miliwn o nosau a gwariwyd cyfanswm o £1.89 biliwn.

Cyhoeddir canlyniadau manwl Lloegr a’r Alban gan VisitEngland a VisitScotland.

Tripiau, nosau a gwariant yng Nghymru yn ôl pwrpas yr ymweliad: 2022

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol manwl i gael rhagor o wybodaeth am y tripiau a wnaed yng Nghymru yn 2023 a 2022, gan gynnwys manylion y mathau a dripiau a phroffil yr ymwelwyr â Chymru.

Yr Arolwg

Daw'r ystadegau am ymwelwyr dros nos o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Mae hwn yn arolwg ar-lein wythnosol lle holir rhyw 60,000 o drigolion Prydain bob blwyddyn. Rheolir yr arolwg ar y cyd gan Croeso Cymru, VisitEngland a VisitScotland. Cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer 2022 a 2023 eu diwygio ym mis Medi 2024 yn dilyn adolygiad o fethodoleg y gyfres – am ragor o wybodaeth, darllenwch y datganiad ar yr adolygiad o'r fethodoleg. Darllenwch ein Hadroddiadau Ansawdd Cefndirol i gael manylion llawn sut cafodd yr arolwg ei gynnal a'r mesurau sicrhau ansawdd.

Straeon Perthnasol