Arolwg Ymwelwyr Cymru (2011-19)
Roedd yr arolwg hwn yn casglu proffil manwl o ymwelwyr hamdden i Gymru a'u hadborth am eu profiadau i wella dealltwriaeth Croeso Cymru o gymhellion, anghenion ac ymddygiadau ymwelwyr â Chymru. Defnyddiwyd canlyniadau'r ymchwil i ddarparu meincnodau ar gyfer strategaethau datblygu a marchnata Croeso Cymru.
Mae'r adroddiadau yn cynnwys tri chategori gwahanol o ymwelwyr.
2. Ymwelwyr undydd o’r DU
3. Ymwelwyr tramor
Mae'r adroddiadau ar gael yma: Arolwg Ymwelwyr Cymru | LLYW.CYMRU
Yn 2019, cynhaliwyd astudiaeth ansoddol sy'n datgelu pam fod ymwelwyr yn teimlo fel y maent am agweddau ar eu hymweliad ac yn rhoi enghreifftiau manylach o brofiadau unigol. Mae'r adroddiad ar gael yma: Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019: Canfyddiadau’r Ymchwil Ansoddol (llyw.cymru)
Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth yng Nghymru (2008-2021)
Bu'r gyfres hon yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau twristiaeth yng Nghymru er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth o'r sector i'r diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus. Casglwyd data ar nifer yr ymwelwyr ac roedd yn cynnwys dadansoddiad cymharol yn ôl rhanbarthau a math o atyniad, ochr yn ochr â data cyd-destunol ar weithrediadau, refeniw, marchnata ac adnoddau dynol.
Mae'r adroddiadau ar gael yma: Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth | LLYW.CYMRU