Datblygu Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan

Darparwyd pedwar cynllun ariannu drwy Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2017/18 a 2020/21:

  • Y Gronfa Busnesau Bach a Micro (MSBF): cronfa gyfalaf rhwng £25,000 a £500,000 ar gyfer mentrau preifat a thrydydd sector ac a allai gefnogi hyd at 40% o'r costau cymwys.
  • Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS): cronfa gyfalaf rhwng £25,000 a £128,000 ar gael i'r cyhoedd a sefydliadau nid-er-elw i ariannu gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ac a allai gefnogi hyd at 80% o'r costau cymwys
  • Y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF): cronfa refeniw rhwng £30,000 a £150,000 i gefnogi cydweithio rhwng partneriaid twristiaeth yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac a allai gefnogi hyd at 90% o'r costau cymwys.
  • Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF): cronfa refeniw rhwng £30,000 a £150,000, a oedd yn agored i unrhyw sefydliad a fyddai'n arwain cynnig cydweithredol i hyrwyddo a datblygu cyrchfannau ymwelwyr o ansawdd uchel ac a allai gefnogi hyd at 90% o'r costau cymwys.

Nod y gwerthusiad oedd adolygu'r pedwar cynllun twristiaeth a darparu asesiad annibynnol o’r ffordd y cafodd y cynlluniau eu gweithredu a’u cyflawni, gan gynnwys canlyniadau ac effaith y cynlluniau.

Ariannwyd cyfanswm o 140 o brosiectau ar draws y pedwar cynllun grant rhwng 2017/18 a 2020/21: roedd 50 yn brosiectau MSBF, 43 yn brosiectau TAIS, 25 yn brosiectau RTEF a 22 yn brosiectau TPIF. Dyfarnwyd cyfanswm o £13.1 miliwn o gyllid grant i'r prosiectau hyn. Cyfanswm gwerth costau'r prosiectau a ariannwyd oedd £28 miliwn, gyda £15 miliwn yn cael ei ddarparu mewn arian cyfatebol.

Yn ogystal â'r £13.1 miliwn o gyllid grant ar lefel prosiect, darparwyd £5.6 miliwn arall, drwy gynlluniau RTEF a TPIF, i ariannu pedair ymgyrch thematig Blwyddyn Croeso Cymru.

Gwnaeth cwmni Ymchwil OB3 werthuso Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan ar ran Croeso Cymru. Wrth adolygu'r pedwar cynllun a grybwyllwyd uchod gwnaeth y gwerthusiad ystyried ffactorau megis cyd-fynd â pholisi, gwaith rheoli cynlluniau, yr hyn a gyflawnwyd gan y prosiectau, pa mor ymatebol oeddent i anghenion y diwydiant, a gwerth am arian. Roedd yn cynnwys adolygu dogfennau, cyfweld â swyddogion Llywodraeth Cymru, arolygu derbynwyr grant, cynnal cyfweliadau manwl gyda phrosiectau a ariannwyd, a chyfweld â rhanddeiliaid allweddol. Fe'i cynhaliwyd rhwng Medi 2022 a Gorffennaf 2023 ac roedd yn cynnwys dau adroddiad.

Mae sampl o'r canfyddiadau yn yr adroddiad llawn isod:

  • cefnogwyd ystod ddaearyddol eang o brosiectau, ac roedd yn rhesymegol bod gogledd Cymru yn cyfrif am gyfran uwch o brosiectau a chyllid o gymharu â rhanbarthau eraill oherwydd y nifer fawr o awdurdodau lleol a gafodd gyllid TAIS a phwysigrwydd twristiaeth ledled y rhanbarth hwn
  • roedd y perfformiad yn erbyn targedau ar lefel cynllun yn gymysg iawn, gydag achosion o ragori'n sylweddol ar y targedau a thangyflawni sylweddol fel ei gilydd, er i rai targedau gael eu hadolygu a'u gostwng; roedd rhai targedau yn rhy isel ac ni chyflawnwyd eraill oherwydd ffactorau allanol megis y pandemig; mae'n anodd cynnig barn ar ba mor dda y perfformiodd y cynlluniau yn erbyn y targedau a ariannwyd, gan nad oedd y targedau a osodwyd yn realistig
  • o ran themâu trawsbynciol roedd tystiolaeth dda bod prosiectau a ariannwyd yn cyfrannu'n gadarnhaol at amcanion yn ymwneud ag arloesi, cyfle cyfartal, datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r Gymraeg; roedd llai o dystiolaeth bod prosiectau a ariannwyd yn cyfrannu at drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig cafodd y pedwar cynllun cyllido eu croesawu'n frwd gan y sector twristiaeth ac un o’r cryfderau allweddol oedd y dull cydlynol o fuddsoddi a
  • mynd i’r afael â bylchau cyllido
  • roedd y gost fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd yn uwch na’r disgwyl (£13,468 o gymharu â’r targed o £10,000 fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd)
  • cyfrannodd cyllid grant o £4.5 miliwn at dwf mewn trosiant o tua £12.7 miliwn y flwyddyn ar draws y busnesau a gefnogwyd
  • byddai gwerth am arian wedi bod yn uwch pe na bai’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar berfformiad busnesau

Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD)

Ers i Gymru ddod yn gymwys am y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd gyntaf yn 2000, mae Croeso Cymru a'r cyrff a'i rhagflaenodd wedi arwain cyfres o raglenni strategol a gyllidir gan yr UE i helpu i ganolbwyntio buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu ansawdd, cynnyrch a chyrchfannau twristiaeth i gefnogi amcanion economaidd, adfywio ac amgylcheddol ehangach Cymru. Gellir dadlau mai TAD yw'r mwyaf uchelgeisiol o'r cynlluniau hyn o ran ei faint a'i nodau, gyda'i bwyslais ar gefnogi cyrchfannau eiconig sy'n medru trawsnewid economi ymwelwyr Cymru a sicrhau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i’r prosiectau a ariannwyd.

Amcan TAD yw darparu buddsoddiad economaidd arwyddocaol mewn asedau twristiaeth allweddol a fydd yn denu rhagor o fuddsoddiad a thwf busnes er mwyn cyflawni canlyniadau allweddol o ran cyflogaeth ac adfywio.

Cafodd prosiectau TAD eu nodi a'u dewis drwy ymarferiad blaenoriaethu rhanbarthol, yn cynnwys byrddau economaidd rhanbarthol a phartneriaid allweddol, a ddaeth wedyn yn gyd-fuddiolwyr.  Ar adeg paratoi'r adroddiad interim hwn, roedd tri phrosiect wedi’u cwblhau’n llawn ac roedd un wedi’i gwblhau’n rhannol ac wedi adrodd ar allbynnau.

Cyfanswm gweithrediad TAD, gan gynnwys costau’r prosiectau, yw £62.2m, gyda £27.7m o’r swm yn gyllid a ddyfernir o raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), a £9.7m ychwanegol yn gyllid cyfatebol wedi’i dargedu (TMF). Erbyn mis Mai 2019, gwnaed hawliadau o £9.9m mewn perthynas ag arian ERDF a £7.7m o TMF. Yn ogystal ag ERDF a TMF, mae prosiectau TAD wedi sicrhau cyllid drwy amrywiaeth o ffynonellau eraill, gwerth dros £24m.

Nid oes adroddiad terfynol wedi'i gyhoeddi eto, ond dengys canfyddiadau interim:

  • Mae cefnogaeth i resymeg y rhaglen a’i nod o ddatblygu cyrchfannau ac atyniadau uchel eu proffil ledled Cymru.
  • Mae Croeso Cymru wedi rheoli’r rhaglen yn effeithiol hyd yma.
  • Mae systemau a phrosesau effeithiol wedi’u datblygu a’u gwella ar gyfer rheoli’r rhaglen.
  • Mae tystiolaeth gynnar o gyfraniad y Cyrchfannau Denu Twristiaeth (TAD) at gyflenwi a chreu swyddi.
  • Ychydig iawn o ymwybyddiaeth o TAD sydd gan bobl ar wahân i’r rheini sydd wedi bod yn rhan uniongyrchol o gyflenwi’r rhaglen.
  • Gallai grŵp rhwydwaith y prosiect TAD fod ychydig yn fwy deinamig o ran hwyluso’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth ac arferion da ymysg partneriaid.
  • Mae themâu trawsbynciol ERDF wedi cael eu gwneud yn rhan o’r ymyriad, ond gellid rhoi mwy o sylw i’r themâu hyn a’r iaith Gymraeg, a’u hyrwyddo’n well, ar lefel prosiectau unigol.
  • Mae lle i wella cysylltiadau â gweithgareddau a rhaglenni lleol a rhanbarthol eraill.

 

Straeon Perthnasol