Cyflwyniad
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhyddhau'r canlyniadau Arolwg Teithwyr Rhyngwladol dros dro diweddaraf sy'n ymdrin â data 2023. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi canlyniadau dros dro diweddaraf yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol sy’n cynnwys data 2023. Mae'r dudalen we hon bellach yn cynnwys data blwyddyn gyfan 2023 gyda chymariaethau â blynyddoedd blaenorol. Mae data hanesyddol hefyd wedi'u diweddaru i gyfrif am ffigurau diwygiedig mewn blynyddoedd blaenorol. Gellir dod o hyd i'r holl ddata yn Tueddiadau teithio: 2023 (SYG).
Mae'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol yn casglu gwybodaeth am deithwyr sy'n dod i mewn ac yn gadael y DU ac mae wedi bod yn rhedeg yn barhaus ers 1961. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb dienw gyda sampl ar hap o deithwyr wrth iddynt adael y DU, ar gyfer Cymru 2023 roedd 981 o gyfweliadau. Tynnwyd sampl o'r holl brif borthladdoedd mynediad yn y DU, ar gyfer Cymru, mae hyn yn cynnwys maes awyr Caerdydd, Caergybi, Penfro ac Abergwaun.
Crynodeb o ganfyddiadau i Gymru
Cafodd Cymru 892,000 o ymweliadau yn 2023, gostyngiad o 13% ers 2019 ond i fyny 30% ers 2022, tra bod gwariant wedi cyrraedd £458m yn 2023, i lawr 11% ers 2019, ond i fyny 16% ers 2022. Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i beidio ag adfer ffigyrau gwariant o 2019.
Cymru sydd wedi derbyn y ffigurau ymwelwyr a gwariant isaf ar draws y DU ac eithrio Gogledd Ddwyrain Lloegr ers 2019, ac eithrio ffigurau gwariant yn 2019 pan nododd rhanbarth Dwyrain Canolbarth Lloegr ffigyrau ychydig yn is yn rhoi Cymru yn y 3ydd isaf.
Gwybodaeth am y data
Mae'r data a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn deillio o'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol a gynhaliwyd gan y SYG. Cyfeiriwch at wefan SYG i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr Arolwg.