Mae fforwm ym mhob rhanbarth – y gogledd, canolbarth, de-ddwyrain a’r de-orllewin. Mae'r fforwm yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn i drafod ac adolygu datblygiadau twristiaeth ac i ddod â rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth at ei gilydd.
Mae nod cyffredinol y Ffora Twristiaeth Rhanbarthol yn cyd-fynd â'r Fforwm Economi Ymwelwyr. Mae i roi llais cynrychioliadol i Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru yn y sector economi ymwelwyr, ei chyflogwyr a'i weithlu (llety i dwristiaid, lletygarwch, atyniadau, digwyddiadau ac economi y nos) trwy ddarparu adborth a chyngor gan y sector i lywio camau gweithredu Llywodraeth Cymru.
Mae'r dull hwn yn gyson â dull partneriaeth gymdeithasol y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur gan weithio gyda'i gilydd trwy gydweithredu a chydweithio, i gyflawni uchelgeisiau a rennir a mynd i'r afael â phryderon cyffredin.
Mae gan bob fforwm rhanbarthol gadeirydd. Y Cadeiryddion presennol yw -
- Gogledd Cymru – Michael Bewick
- Canolbarth Cymru - Steve Hughson FRAgS
- De-orllewin Cymru – George Reid
- De-ddwyrain Cymru - Rachel Cilliers
Fel aelod o grŵp rhanddeiliaid y Fforwm Rhanbarthol, bydd manylion aelodau'n cael eu rheoli yn unol â'n Hysbysiad preifatrwydd.
Gweler y Cylch Gorchwyl.
I ofyn am gopi o'r cofnodion o gyfarfod fforwm twristiaeth rhanbarthol neu i gysylltu â Chadeirydd y fforwm rhanbarthol, anfonwch e-bost at regionaltourism@llyw.cymru