Cymorth Sgiliau , Recriwtio, a Hyfforddiant I fusnesau
Ganolfan Byd Gwaith
Gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig cymorth a chefnogaeth i fusnesau wrth recriwtio a chyflogi pobl. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallant helpu eich busnes ar gael ar wefan Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith - GOV.UK (www.gov.uk).
Recriwtio Prentis
I gael gwybod sut y gall recriwtio prentis fod yn dda i'ch busnes, a pha gymorth sydd ar gael gyda chostau, ewch yma.
Y Porth Sgiliau
For information and advice on recruitment and training support visit Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.
Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.
Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)
Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch gweithwyr i ddatblygu’ch sgiliau er budd eich busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae cyrsiau ar gael ar:
- Gyllid
- TG
- Marchnata
- Syniadau Busnes a Chynllunio Busnes − a llawer mwy.
Mae'r cyrsiau'n ddwyieithog, yn gyfoes, ac mae mynediad ar gael iddynt 24/7 mewn ffordd sy’n addas ar eich cyfer chi. Gallwch sgwrsio’n fyw ac mae llinell gymorth ar gael dros y ffôn i'ch cefnogi. I gael gwybod mwy ac i wylio fideo byr sy’n esbonio beth sydd ar gael a sut y gall eich helpu, ewch i https://businesswales.gov.wales/boss/cy.
Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Mae cyllid ar gael i helpu gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, neu ar-lein.
Yr uchafswm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyfrannu fydd £25,000, a bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 50% o gost yr hyfforddiant.
Nid oes gofyn defnyddio unrhyw gwmni hyfforddi penodol – caiff yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig. Rhaid i'r hyfforddiant a gefnogir ar y rhaglen hon gael ei achredu yn unol ag un o safonau cydnabyddedig y diwydiant.
Mae’r hyfforddiant y gellir ei gefnogi o dan y rhaglen hon yn cynnwys
- Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Covid, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch
- Hyfforddiant arbenigol e.e. Coginio Proffesiynol, bwyd a diod, cadw tŷ, hyfforddwr awyr agored/rhaffau uchel
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid
- TGCh a Sgiliau Digidol
- Twristiaeth Gynaliadwy
I weld a yw’ch busnes chi’n gymwys ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Hyblyg.
Mathau eraill o gymorth ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr
Llesiant
Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers tro byd bod angen hybu a chefnogi iechyd a llesiant gweithwyr, gan gynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a ffordd iach o fyw.
Gall manteision mynd i'r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr arwain at:
- lefelau is o salwch ac absenoldeb
- gwell cynhyrchiant
- gwaith o ansawdd uwch
- mwy o ddiddordeb gan staff yn eu gwaith
- llai o drosiant staff
Mae gan weithwyr sy'n cael cymorth i berchenogi eu llesiant eu hunain:
- lefelau is o straen
- mwy o gymhelliant
- gwell morâl
- mwy o foddhad yn eu swyddi
- ymwybyddiaeth uwch o lesiant cydweithwyr
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cynnig arweiniad, dulliau a chefnogaeth ichi sefydlu a datblygu diwylliant llesiant yn eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y sgwrs ar iechyd yn y gweithle.
Cymru'n Gweithio – cymorth i unigolion
Dyma raglen Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i unigolion ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd, yn rhad ac am ddim.
Gall helpu pobl
- y mae angen cymorth arnynt i gael swydd gyflogedig neu i chwilio am waith
- sydd wedi colli’u swyddi, yn ogystal â phobl sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd a hoffai wella’u sgiliau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru'n Gweithio.