Mae'n bwysig bod pobl sy'n ymweld â Chymru yn mwynhau eu hunain tra maent yma. Os bydd ein hymwelwyr yn cael amser da yng Nghymru maent yn fwy tebygol o ddychwelyd a’n hargymell i eraill. Pobl yw ein hased pwysicaf i helpu sicrhau bod hyn yn digwydd.
Ceir llawer o adnoddau ar gyfer i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir i chi a'ch staff.
Mae'r sector Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau yn un amrywiol. Mae'n cwmpasu llawer o elfennau is-sectorau gwahanol, gan gynnwys gweithgareddau ym maes llety a gwasanaethau bwyd, fel
- gwestai a mathau eraill o lety
- bwytai
- gwasanaethau diodydd ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau
- gweithgareddau antur awyr agored
- atyniadau i ymwelwyr.
Ymgyrch Croeso Cymru: Gweithio ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch
Ymgyrch Croeso Cymru: Pecyn Cymorth ac asedau
Postio swyddi gwag a recriwtio
SkillsCampWorkInIndustryYmgyrch Croeso Cymru: Gweithio ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
Ers mis Awst 2021, mae Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y swyddi gwag sydd yn y sector, sy’n ymateb i’r cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid a bod mwy o bobl yn dewis aros yn y wlad hon am eu gwyliau eleni.
Mae’n ymdrin â chyfleoedd datblygu personol a llwybrau gyrfaol posibl mewn swyddi fel
- blaen y tŷ
- coginio
- cadw tŷ
- goruchwylio a rheoli
Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar y cyd â Cymru’n Gweithio – porth cyflogaeth Llywodraeth Cymru, i bobl 16 oed a throsodd. Mae’n cynnig cyngor a chymorth diduedd, cynhwysol a phenodedig i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant iddynt allu datblygu eu gyrfaoedd a gwella’u lles.
I weld y manylion llawn, ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd mwy o astudiaethau achos a ffilmiau ar gael yn y misoedd i ddod.
SkillsCampToolkitAssetYmgyrch Lletygarwch: Pecyn cymorth ac asedau
Fel rhan o'r ymgyrch, mae asedau a phecyn cymorth newydd ar gael nawr. Mae'r pecyn cymorth ar gael i
- helpu rhanddeiliaid i recriwtio staff
- codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch
Cefnogwch yr ymgyrch trwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #LlunwyrProfiadau. I gael manylion llawn yr ymgyrch, ewch i wefan Cymru’n Gweithio.
SkillsRecruitementPostio swyddi gwag gyda darparwyr lleol
Nid yw’r wybodaeth ganlynol yn gyflawn – os nad yw eich coleg lleol wedi ei restru, ffoniwch y coleg yn uniongyrchol am wybodaeth.
Recriwtio adnoddau, mentrau a chyfleoedd
Dewch o hyd i'ch colegau lleol a'ch darparwyr hyfforddiant a all helpu i hysbysebu swyddi gwag a rhywfaint o wybodaeth am fentrau ac ymgyrchoedd lleol sy'n cael eu cynnal.
Colegau/darparwyr hyfforddiant
- Mae Grwp Llandrillo Menai yn cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ac yn cyflwyno cyrsiau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Gall busnesau sydd â swyddi gwag lenwi'r Ffurflen Swyddi Gwag i Gyflogwyr a'i chyflwyno i employerjobs@gllm.ac.uk - bydd y swyddi gwag yn cael eu rhoi ar wefan y coleg a'u hamlygu i fyfyrwyr.
- Mae gan Goleg y Cymoedd gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg y Cymoedd. i drafod eich swyddi gwag, cysylltwch â thîm y Ganolfan Gyflogaeth ar 01443663229 / 07971341251 neu e-bostiwch Futures@Cymoedd.ac.uk
- Gall Coleg Pen-y-bont ar Ogwr drafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cefnogi recriwtio ar gyfer busnesau o unrhyw faint ledled De Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o cyfleoedd.co.uk a chysylltu â Steve Jones - Cyfleoedd@bridgend.ac.uk neu 01656 302302 est 184
- Mae gan Goleg Cambria chwe safle ledled y Gogledd-ddwyrain sy’n cynnig cyrsiau. Gall busnesau ddarganfod sut i hysbysebu swyddi gwag ar y Siop Swyddi ar lein. Cewch wybodaeth hefyd am sut i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
- Mae Coleg Sir Gâr sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn galluogi busnesau i hysbysebu swyddi ar draws pob campws. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Filipe Nunes, Filipe.Nunes@colegsirgar.ac.uk neu 07468 470 245.
- Hysbysebu cyfleoedd ym Met Caerdydd - Gallwch hysbysebu swyddi’n uniongyrchol i fyfyrwyr ar safle swyddi mewnol Met Caerdydd, MetHub. I hysbysebu swydd, bydd angen cofrestru a chreu cyfrif. Caiff eich cyfrif ei gymeradwyo mewn 2-3 diwrnod gwaith ac wedyn, cewch lwytho swyddi’n syth i’r safle. Cofrestrwch gyda MetHub https://methub.cardiffmet.ac.uk/employers/ ar-lein. Am ragor o help, cysylltwch â careers@cardiffmet.ac.uk.
- Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu hyfforddiant prentisiaeth sy’n seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae'n arbenigo mewn cefnogi busnesau yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth.
Bydd eu tîm yn trafod eich anghenion busnes a’r cyllid sydd ar gael i recriwtio a hyfforddi staff a helpu i hysbysebu a recriwtio prentis yn rhad ac am ddim a darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel: Hysbysebir eu swyddi prentisiaeth gwag ar eu gwefan, gwasanaeth cenedlaethol swyddi gwag prentisiaeth a'u cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Hyfforddiant Cambrian.
Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.
SkillsPartnershipGrpPartneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru
Ym mis Medi 2019, ar ôl trafod yn eang â rhanddeiliaid, ffurfiwyd partneriaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y diwydiant. Penodwyd Cadeirydd annibynnol, a threfnwyd bod Croeso Cymru yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob chwarter.
Nod y Bartneriaeth yw
- casglu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a cheisio barn y diwydiant
- nodi problemau a phryderon o ran prinder pobl a sgiliau
- cynnig atebion i randdeiliaid yn y sector, er enghraifft, Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol
- lledaenu gwybodaeth i'r sector am recriwtio, darparu hyfforddiant, cyllid, arferion gorau etc.
Rôl y Bartneriaeth yw:
- rhoi arweiniad a phennu chyfeiriad y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â sgiliau
- annog rhannu gwybodaeth a chynnig atebion er mwyn mynd i'r afael â phryderon
- ystyried blaenoriaethau strategol a nodwyd gan randdeiliaid
- cynghori ar y camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni canlyniadau strategol
- rhoi arweiniad ar wella'r sylfaen sgiliau yn y sector, ac ar ddenu newydd-ddyfodiaid a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth, cysylltwch â Kerry.Thatcher@llyw.cymru.