Pam mae’r farchnad teithio gyda chŵn yn bwysig

I lawer o bobl, mae cŵn yn rhan o’r teulu. Mae mwy a mwy o deithwyr yn chwilio am leoedd sy’n croesawu eu cŵn.

Dyna pam mae Croeso Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at y profiadau sy’n croesawu cŵn drwy ymgyrch Cymru i'ch ci. Mae’r ymgyrch yn rhedeg ar Facebook, Instagram, Reddit, YouTube ac Amazon Prime, gan hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ddelfrydol i gŵn a’u perchnogion.

I fusnesau twristiaeth, mae hyn yn gyfle i gyrraedd mwy o berchnogion cŵn a denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Fideo ymgyrch Cymrui 'ch ci

Cyfle gwerthfawr mewn marchnad sy’n tyfu

O lwybrau arfordirol a llwybrau mynyddig i leoedd sy’n croesawu cŵn i aros, bwyta ac ymweld â nhw, mae gan Gymru ddigon i’w gynnig i gŵn a’u perchnogion.

Mae Cymru i'ch ci yn arddangos y profiadau hyn, gan ysbrydoli mwy o ymwelwyr i ddewis Cymru ar gyfer eu gwyliau nesaf ac annog pobl i aros yn hirach.

Dysgwch fwy am sut rydym yn rhoi Cymru ar y map fel cyrchfan sy’n croesawu cŵn, a chael syniadau i helpu eich busnes i gyrraedd y farchnad gynyddol hon.

Teithiau cerdded gwych i gŵn | Croeso Cymru

Tafarndai sy'n addas ar gyfer cŵn | Croeso Cymru

Caerdydd â Chŵn | Croeso Cymru

Cŵn yn crwydro Cymru | Croeso Cymru

Sut i apelio at berchnogion cŵn

Mae mwy o deithwyr yn chwilio am leoedd sy’n croesawu cŵn. Gall cynnig clir a chroesawgar helpu busnesau i ddenu mwy o ymwelwyr a chael mwy o archebion.

Gall camau syml wneud gwahaniaeth mawr:

  • gwneud eich polisi croesawu cŵn yn glir ar eich gwefan a’ch sianeli archebu
  • tynnu sylw at deithiau cerdded, traethau a phrofiadau awyr agored cyfagos
  • cynnig cyfleusterau ymarferol fel powlenni dŵr, danteithion i gŵn neu fannau i olchi cŵn
  • rhannu cynnwys sy’n croesawu cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol
  • annog ymwelwyr i rannu lluniau ac adolygiadau o’u cŵn yn mwynhau eu hymweliad
Danteithion cŵn ar gael yn The Sun Trevor, Llangollen, Gogledd Cymru.
Silver Circle Distillery, Sir Fynwy, De Cymru
Dyffryn Gwy a Bro Wysg, De Cymru

Danteithion cŵn ar gael yn The Sun Trevor, Llangollen, Gogledd Cymru | Mae croeso i gŵn yn Silver Circle Distillery, Sir Fynwy, De Cymru  | Cawod bwrpasol i gŵn ac esgidiau ym Mro Wysg a Dyffryn Gwy.

Ymunwch â Gwobr Croeso i Anifeiliaid Anwes

Mae’r Gwobr Croeso Anifeiliaid Anwes yn rhoi sicrwydd i ymwelwyr y bydd cŵn ac anifeiliaid anwes eraill yn cael croeso cynnes.

Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ledled Cymru gyrraedd y farchnad gynyddol o berchnogion cŵn. Gall ymuno â’r cynllun helpu i godi proffil eich busnes, dangos eich ymrwymiad i groesawu anifeiliaid anwes, a denu mwy o ymwelwyr.

Dysgwch ragor am ymuno â chynllun y Gwobr Croeso i Anifeiliaid Anwes.

Straeon Perthnasol