Mae ‘arfer da' yn y sector gweithgareddau antur a hamdden awyr agored yn cynnwys ymgysylltu'n rheolaidd â chynghorydd/ymgynghorydd technegol i gefnogi asesiad y darparwr o risgiau, nodi'r mesurau diogelwch sydd eu hangen gyda threfniadau rheoli i weithredu'r mesurau hyn, a gwybodaeth gadarn am beryglon ac 'arfer da' derbyniol o ran yr hyn sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau diogelwch cyfranogwyr.
Mae Ymgynghorwyr Technegol enwebedig Croeso Cymru wedi'u henwebu ar gyfer eu:
- lefel profedig o gymhwysedd technegol o fewn y sector gweithgareddau antur
- gwybodaeth dda am yr amgylchedd(au) lle cynhelir gweithgareddau antur
- mynediad at, gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli gweithgareddau antur
- dealltwriaeth o brosesau cynllun sicrwydd mewn perthynas â bodloni'r ddeddfwriaeth berthnasol, meini prawf y cynllun a safonau 'arfer da'
- aeddfedrwydd i wneud penderfyniadau addas a chadarn
Yr Ymgynghorwyr Technegol enwebedig ar gyfer Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru yw:
Gogledd Cymru:
• Andy Newton – 07702 905208 - andy@andynewtonmic.org
• Mike Rosser – 07767 386470 - mikearosser@gmail.com
• Adam Harmer - 07971189514 - Adam_harmer@hotmail.com
De Cymru:
• Gary Evans - 07836 748752 - garyswcro@gmail.com
• Paul Marshall - 07776 196460 - paul@inspire2adventure.com
• Tom Partridge - 07725 172949 - tompartridge@ymail.com
Cymru Gyfan - ar gyfer pob darparwr seiclo a beicio mynydd:
• Dan Cook - dancook42@gmail.com