Mae Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru yn cydnabod y cynlluniau achredu/sicrwydd canlynol yn y DU ar y sail bod y broses yn cynnwys archwiliad o fusnes, gan gynnwys systemau rheoli diogelwch, arsylwi gweithgaredd(au), ac mae'n rhoi adborth yn dilyn yr ymweliad sy'n cydnabod bod 'arfer da' y sector gweithgareddau antur wedi'i ddangos, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a'r Rheoliadau cysylltiedig.
ON. Er y gall aelodaeth a chysylltiadau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Cyrff Dyfarnu, Cyrff Proffesiynol a'ch priod gymwyseddau fod yn gynrychioliadol o ran o unrhyw un o gynlluniau achredu'r DU, nid ydynt yn gyfystyr â chael eu hachredu at ddibenion y cynllun hwn, fel y nodir uchod.
Cynlluniau Achredu’r DU
Cynllun Yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) (Saesneg yn unig)
ON. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob darparwr gweithgareddau antur a hamdden awyr agored sy'n darparu gweithgareddau i rai dan 18 oed.
Cynllun Adventuremark (Seasneg yn unig)
Cynllun aelodau Safon Aur Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored (AHOEC) (cynllun achredu Adventuremark) (Saesneg yn unig)
Cynllun aelodau Cymdeithas Darparwyr Gweithgareddau Prydain (BAPA) (cynllun achredu Adventuremark) (Saesneg yn unig)
Corff Llywodraethu Cenedlaethol y DU (CLlC) / Corff Dyfarnu (CD) / Sefydliadau Hyfforddi (SH) Cynlluniau Achredu
Cynllun Hyfforddi Mynydd y DU (Saesneg yn unig)
Cynllun y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) (Saesneg yn unig)
Cynllun Seiclo Prydain (Saesneg yn unig)
Cynllun Cymdeithas Ceffylau Prydain (Saesneg yn unig)
Cymdeithas Marchogaeth Merlod Cymru (Saesneg yn unig)
Nofio Cymru (Saesneg yn unig)
ON. Dim ond y gweithgaredd(au) a gwmpesir gan gynllun achredu CLlC/CD/SH fydd yn gallu cael eu cydnabod a'u rhestru gan Croeso Cymru.