Rydym yn croesawu ceisiadau i restru gweithgareddau yng Nghymru. Bydd gweithgareddau yn cael eu harddangos ar wefan Croeso Cymru drwy ein Cronfa Ddata Rhestru Cynnyrch (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth bwysig
Gwiriwch fod eich gweithgaredd yn bodloni gofynion Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru cyn cwblhau'r ffurflen hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael cymorth i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â'n desg gymorth:
E-bost: visitwalessupport@granicus.com
Ffôn: 0330 808 9410
Bydd pob rhestr gweithgareddau yn cael ei wirio cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi.
Mae angen i ddelweddau fod o leiaf 1920 x 1440 picsel o ran maint.
Defnyddiwch gyfeiriad e-bost neu rif ffôn y gall aelod o'r cyhoedd yn unig gysylltu â nhw ynglŷn â'r gweithgareddau.
Rydym yn cadw'r hawl i olygu neu wrthod rhestr gweithgareddau.
Bydd eich data yn cael ei storio yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Gweler ein Telerau ac Amodau Cyfreithiol a'n Polisi Preifatrwydd