Sut rydym yn hyrwyddo Cymru yr hydref hwn
• Ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y DU i fwynhau gwyliau hydrefol yng Nghymru
• Arddangos bwyd, diod a lletygarwch Cymru
• Targedu cyplau a grwpiau o oedolion
• Cyrraedd cynulleidfaoedd drwy sianeli gan gynnwys Amazon Prime, Meta, TikTok, Pinterest a YouTube.
Cymryd rhan
Helpwch ni i ddathlu’r bobl, y lleoedd a’r cynnyrch sy’n gwneud lletygarwch Cymru mor arbennig. Mae’n hawdd cymryd rhan yn yn yr ymgyrch. Dyma rai syniadau syml:
- Postiwch lun neu fideo o bryd neu gynnyrch Cymreig rydych chi’n ei gynnig a thagiwch ni @croesocymru
- Tagiwch ac argymhellwch fusnes bwyd neu ddiod lleol
- Rhannwch gynnwys bwyd a diod Croeso Cymru o’n sianeli Instagram, Facebook neu TikTok
- Dywedwch wrth eich cwsmeriaid am gynhwysyn neu gynhyrchydd Cymreig rydych chi’n ei ddefnyddio a pham
- Anfonwch stori atom am eich busnes a’r hyn sy’n gwneud eich profiad lletygarwch yn unigryw Gymreig
Rhannwch eich newyddion diweddaraf
Dywedwch wrthym am eich profiadau bwyd, diod a lletygarwch a allai helpu i ysbrydoli ein gweithgarwch marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.
Cysylltwch â ni drwy e-bost i rannu eich newyddion diweddaraf a’n helpu i hyrwyddo Cymru.
Naws am le a Gwerth Cymreictod
Mae ymgyrch Hwyl Lletygarwch yn dathlu’r gorau o letygarwch Cymru, gan ddod â’n croeso cynnes a’n bwyd a diod unigryw at ei gilydd i roi blas go iawn o Gymru ac naws am le cryf o Gymreictod i ymwelwyr.
Y bobl y tu ôl i’r hwyl
Wrth galon lletygarwch Cymru mae’r bobl sy’n ei wneud mor arbennig. O gynhyrchwyr bwyd a chogyddion talentog i fwytai, bragdai a distyllfeydd, maen nhw i gyd yn helpu i greu profiadau bwyd a diod arbennig yng Nghymru.
Edrychwch ar sut mae Croeso Cymru yn rhoi sylw i’r bobl, y lleoedd a’r straeon y tu ôl i fwyd a diod Cymru. Defnyddiwch yr enghreifftiau hyn fel ysbrydoliaeth i ddod â mwy o Gymreictod i brofiad eich ymwelwyr a’u helpu i ddarganfod beth sy’n gwneud eich ardal chi’n arbennig.
Twristiaeth Bwyd yng Nghymru
Darganfyddwch offer ac adnoddau i helpu busnesau lletygarwch i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, prynu’n lleol a chreu profiad Cymreig unigryw i ymwelwyr.
Datblygwyd Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru ar gyfer 2015–2020, ond mae’r canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i fusnesau twristiaeth heddiw.
Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd
Mae’r Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd yn adnodd ymarferol i helpu busnesau lletygarwch i wneud y gorau o fwyd a diod Cymru. Mae’n edrych ar werth twristiaeth bwyd i Gymru ac i’ch busnes, ac yn cynnwys cyngor a syniadau defnyddiol ar gynllunio bwydlenni, ryseitiau a ffyrdd o dynnu sylw eich cwsmeriaid at fwyd a diod Cymru.
Edrychwch ar y Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd am syniadau ymarferol ac ysbrydoliaeth.
Adnoddau a chymorth sgiliau
Pobl sy’n gwneud lletygarwch Cymru yn arbennig. Archwiliwch yr adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu chi a’ch tîm i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a chreu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â Chymru.