Wal Hwyl 

Fel rhan o'n hymgyrch farchnata mae'r “Wal Hwyl” yn ymddangos ar hafan Croeso Cymru.  Mae'r "wal" yn llawn adegau o hwyl a llawenydd - hwyl - ledled Cymru ac wrth i'r ymgyrch fynd rhagddi, byddwn yn gofyn i ymwelwyr ein tagio fel ei bod yn cynnwys pobl yn cael hwyl yng Nghymru. 

Defnyddiwch y tagiau canlynol #FeeltheHwyl, #Hwyl, #VisitWales a #CroesoCymru.  Bydd cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn ymddangos gydol y flwyddyn, ond i ddechrau, h.y. yn y lansiad, bydd Croeso Cymru yn defnyddio rhai o'n hoff bostiadau hwyliog ein hunain. 

Os hoffech i'ch busnes neu'ch cyrchfan gael ei ystyried i fod yn rhan o gynnwys lansio’r Wal Hwyl, e-bostiwch Croeso@llyw.cymru – y cyfan sydd ei angen arnom yw enw cyswllt, e-bost, ac enw eich busnes, ac yna byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pa fath o fideo neu bostiad yr ydym yn chwilio amdano a'ch helpu i gael eich cynnwys. 

Ffrindiau yn mwynhau aros yn y Glampio Hush Hush  Llanandras, Powys.
Ffrindiau yn mwynhau'r Taith Fwyd Caerdydd.
Mae hyfforddwr rafftio dŵr gwyn yn tywys grŵp o ymwelwyr i lawr y dyfroedd gwyllt yn Rafftio Dŵr Gwyn, Llandysul.
Glampio Hush Hush, Presteigne, Powys | Taith Fwyd Caerdydd | Rafftio Dŵr Gwyn, Llandysul.

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw