2020YoO2020: Blwyddyn Awyr Agored Cymru

2020 oedd ein gwahoddiad i ymwelwyr a thrigolion Cymru i ddathlu'r gorau o’r awyr agored. Gwnaethom ofyn i bobl wneud y canlynol: 

  • ddod i aros yn ein gwestai, ein gwersylloedd a'n bythynnod. 
  • agor eu drysau a darganfod atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd nad oeddent wedi'u profi eto. 

Gwnaethom annog ymweliadau â gwahanol gorneli o'r wlad drwy gydol y flwyddyn, gan y gallwch deimlo’n dda mewn unrhyw dymor. 

Ethos a negeseuon yr ymgyrch

Y prif gysyniad sydd wrth wraidd ymgyrch Blwyddyn yr Awyr Agored oedd bod Cymru’n wlad sy’n cynnig “croeso heb furiau”. Yr Awyr Agored Arbennig.

Prif nod yr ymgyrch oedd cyflwyno’r Gymru go iawn. Nid dim ond yr hyn a gynigir i dwristiaid ond hefyd y croeso a’r ymdeimlad o gymuned, gan gysylltu’r awyr agored ag Iechyd a llesiant. Roedd digwyddiadau diwylliannol hefyd yn rhan fawr o ymgyrch eleni.

Cafodd y geiriau Dyma Gymru. Dyma Groeso eu defnyddio er mwyn ysbrydoli pobl i “ymweld â’r Gymru go iawn”. Roedd ‘Dyma groeso’ yn cynnig posibiliadau di-ri – croeso i bobl fanteisio ar lety, cynhyrchion, gweithgareddau a thirweddau tra’u bod yng Nghymru. 

Cafodd y flwyddyn ei lansio ar 1 Ionawr, a chafodd yr hysbyseb newydd ei dangos ar y teledu a fideos ar alw. 

Blwyddyn yr Awyr Agored – Canllawiau i’r Diwydiant.

2019YoD2019: Blwyddyn Darganfod

Yn ystod Blwyddyn Darganfod 2019 gwnaethomwahodd ymwelwyr i weld yr hyn sy'n ein gwneud yn unigryw: y pethau na fyddwch yn eu gweld unrhyw le arall yn y byd. Yn ystod 2019 gwnaethom ganolbwyntio ar y canlynol:

  • edrych ar y tair thema graidd a gafodd eu defnyddio cyn 2019 - Blwyddyn Antur, Blwyddyn Chwedlau a Blwyddyn y Môr - gan ganolbwyntio ar ein cryfderau craidd: antur, diwylliant a'r dirwedd
  • dod â’r themâu ynghyd; i greu safbwyntiau amrywiol o Gymru lle y mae'r cryfderau hyn i'w gweld gyda'i gilydd; a lle, mewn mannau fel Gogledd Cymru gyda'i weithgareddau antur o'r radd flaenaf, diwylliant treftadaeth y byd a'i dirwedd naturiol anhygoel, y daw'r rhain i gyd ynghyd i greu darlun unigryw o'r wlad i'r byd.

Roedd creu profiadau unigryw a chofiadwy ym mhob un o'r meysydd hyn, ynghyd â bwyd a diod a lletygarwch gwych, wrth wraidd yr hyn y gwnaethom geisio ei gyflawni. 

Blwyddyn Darganfod – Canllawiau i’r Diwydiant.

2018YoS2018: Blwyddyn y Môr

Roedd Blwyddyn y Môr 2018 yn dathlu morlin rhagorol Cymru.  Gwahoddwyd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig newydd o gwmpas ein glannau.

Neges fawr Flwyddyn y Môr oedd "Ein Glannau Epig" a oedd yn gyfle i gynnwys llynnoedd ac afonydd yn ein hymgyrchoedd.

Drwy gydol y flwyddyn, dathlom ein cynnyrch arfordirol rhagorol a oedd yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau arbennig. Roedd digwyddiadau megis Ras Cefnfor Volvo wedi golygu ein bod wedi gweithio â sefydliadau, megis RNLI a Cadwch Gymru'n Daclus, i rannu pwysigrwydd twristiaeth gyfrifol.

Blwyddyn y môr – Canllawiau i’r Diwydiant.

2017YoL2017: Blwyddyn Chwedlau

Roedd Blwyddyn Chwedlau 2017 yn gyfle i arddangos diwylliant, treftadaeth a thirweddau cyfoethog Cymru. 

Roedd yn gyfle i 

  • ddathlu cyfoeth o ddigwyddiadau ac eiconau ym myd diwylliant a chwaraeon, 
  • dangos sut ydym yn rhagori

Ac roedd yn ymwneud â chreu a dathlu chwedlau Cymreig newydd; personoliaethau, cynhyrchion a digwyddiadau modern sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, neu sy’n cael eu cyfoethogi drwy ddod yma.

Blwyddyn Chwedlau – Canllaw i’r Diwydiant. 

Ffilm ymgyrch Croeso Cymru: Blwyddyn Chwedlau 2017.

2016YoA2016: Blwyddyn Antur

Roedd Blwyddyn Antur 2016 wedi’i chreu ar gydnabyddiaeth o gyfryngau megis the Lonely Planet Guide, a nododd yn 2016, 

“…there’s no better time to explore one of the finest natural playgrounds in Europe”.

O feicio mynydd i arforgampau, gwibio ar wifren sip i syrffio.... gwnaethom ddathlu ein cynnyrch antur rhagorol yn ystod y flwyddyn hon.

Blwyddyn Antur – Canllaw i’r Diwydiant.

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw