Ydych chi’n drefnydd digwyddiadau, ac am ddod â digwyddiad mawr i Gymru?
Ydych chi eisiau datblygu digwyddiad bach i fod yn ddigwyddiad unigryw cenedlaethol?

Os yw eich digwyddiad yn helpu i gefnogi twf economaidd a chodi proffil ac enw da rhyngwladol Cymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

Bydd sgwrs anffurfiol yn ddigon i weld a yw’ch cynigion yn gyson â’n meini prawf. Yna cewch wahoddiad i lenwi holiadur byr a chaiff yr wybodaeth ynddo ei asesu’n ffurfiol. Os bydd eich cais cychwynnol yn llwyddiannus a chan ddibynnu ar faint o gyllid sydd ar gael, cewch wahoddiad i gyflwyno cynllun busnes manwl. Bydd angen i’r cynllun busnes gynnwys proffil cyllid cyflawn. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o’r tîm
E-bost: 
digwyddiadaucymru@llyw.cymru

Straeon Perthnasol