Polisïau a deddfwriaeth sy'n dylanwadu ar y sector twristiaeth yng Nghymru:
O Hydref 2026 ymlaen, bydd angen i bob darparwr llety i ymwelwyr sy'n derbyn archebion ar gyfer arhosiad dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Refeniw Cymru.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim a bydd yn cynnig data a gwybodaeth werthfawr i'r sector twristiaeth ledled Cymru.
Mae cofrestru yn ofyniad cyfreithiol a bydd cosbau ariannol i fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio.
Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 yn caniatáu i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr dros nos i godi arian i gefnogi twristiaeth leol.
Prif bwyntiau:
- Gall cynghorau lleol ddewis a ydyn nhw am gyflwyno'r ardoll ymwelwyr yn eu hardal. Byddant yn gwneud y penderfyniad ar ôl ymgynghori â thrigolion a busnesau.
- Y cynharaf y gallai cyngor gyflwyno ardoll ymwelwyr yw ym mis Ebrill 2027.
- Bydd yr arian newydd hwn yn helpu ardaloedd lleol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â lletya ymwelwyr, megis glanhau strydoedd, casglu gwastraff, cynnal toiledau, a diogelu atyniadau naturiol a diwylliannol i bawb eu mwynhau.
Deddfwriaeth sylfaenol yw'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) arfaethedig . Mae'r Bil wedi'i gynllunio i hyrwyddo datblygiad twristiaeth yng Nghymru ac mae'n darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllun trwyddedu ar gyfer llety i ymwelwyr. Mae'r cynllun trwyddedu yn adeiladu ar y gofrestr a sefydlwyd gan Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 a bydd yn rheoleiddio llety i ymwelwyr yng Nghymru i sicrhau ei fod yn bodloni safonau penodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar Trwyddedu llety i ymwelwyr yng Nghymru | LLYW. CYMRU.
Gan adeiladu ar gofrestru llety i ymwelwyr, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn dechrau gyda llety hunangynhwysol, hunanarlwyo, gyda'r gallu i ymestyn i fathau eraill o lety yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
- rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod llety yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl
- darparu trefn glir i ddarparwyr
Gosodwyd Bil drafft gerbron Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2025 ynghyd â Memorandwm Esboniadol.
Gallwch ddarllen y Bil a'r Memorandwm ar wefan y Senedd.
Bydd y Bil hefyd yn creu Cod o gyfreithiau Cymreig ar dwristiaeth. Bydd hyn yn dwyn ynghyd gyfreithiau presennol ar dwristiaeth ac yn gwneud y gyfraith yn haws i'w chyrchu a'i deall.
Rhagor o wybodaeth: Trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Mae eiddo a ddefnyddir fel llety gwyliau hunanarlwyo yn cael eu dosbarthu naill ai'n ddomestig neu'n annomestig at ddibenion trethiant lleol. Mae eiddo domestig yn destun y dreth gyngor ac eiddo annomestig yn destun ardrethi annomestig (a elwir yn aml yn ardrethi busnes).
Mae angen diffiniad penodol i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion trethi lleol, am ei bod yn bosibl y gallai'r un eiddo gael ei ddefnyddio naill ai at y diben hwn neu fel annedd ddomestig.
Rhagor o fanylion: Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru | Busnes Cymru