Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r Bil Twristiaeth a Rheoleiddio Llety i Ymwelwyr (Cymru)

Diweddariad ar 23/03/2026

Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn mynd yn ei flaen drwy broses ddeddfu'r Senedd ar hyn o bryd.

Mae sawl Pwyllgor wedi

  • cynnal sesiynau tystiolaeth lafar, 
  • adolygu ystod o gyflwyniadau ysgrifenedig gan randdeiliaid ar draws y sectorau twristiaeth a llety, a
  • cyhoeddi adroddiadau sy'n cynnwys eu hargymhellion. 

Nod y trafodaethau a'r argymhellion hyn yw llunio'r fframwaith ar gyfer rheoleiddio llety i ymwelwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

Y sefyllfa ar hyn o bryd: 

  • Cam 1 - Adroddiadau Pwyllgorau: Cyhoeddodd y pwyllgorau eu hadroddiadau ar 19 Rhagfyr 2025. Mae'r rhain ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd
  • Dadl Egwyddorion Cyffredinol: Bu'r Senedd yn trafod a chytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 13 Ionawr 2026.
  • Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau yn ystod y ddadl Egwyddorion Cyffredinol, ac yn ysgrifenedig. Mae'r ymatebion hyn hefyd ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd.
  • Cam 2: Gellir diwygio'r Bil yn ystod y cam hwn drwy welliant. Cynhaliwyd ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd o'r gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Chwefror. 
  • Cam 3: Cam diwygio pellach, lle ystyriwyd gwelliannau mewn sesiwn lawn gan y Senedd ar 10 Mawrth.
  • Cam 4 - Pleidleisio ar y Bil terfynol gan y Senedd: lle pleidleisiwyd ar y Bil, fel y'i diwygiwyd yn dilyn camau 2 a 3. Ar 17 Mawrth pasiodd y Senedd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Bydd fersiwn o'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Ngham 2 ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd

Y camau nesaf: Gan fod y Bil wedi'i basio gan y Senedd, mae cyfnod byr pan fydd Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU neu'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu codi pryderon am gymhwysedd y Senedd i wneud y ddeddfwriaeth. Os nad oes unrhyw faterion yn cael eu codi, yna bydd yn mynd ymlaen am Gydsyniad Brenhinol. Os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol, caiff ei wneud yn Ddeddf.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen.

Straeon Perthnasol

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw