Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r Bil Twristiaeth a Rheoleiddio Llety i Ymwelwyr (Cymru)
Diweddariad ar 23/03/2026
Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn mynd yn ei flaen drwy broses ddeddfu'r Senedd ar hyn o bryd.
Mae sawl Pwyllgor wedi
- cynnal sesiynau tystiolaeth lafar,
- adolygu ystod o gyflwyniadau ysgrifenedig gan randdeiliaid ar draws y sectorau twristiaeth a llety, a
- cyhoeddi adroddiadau sy'n cynnwys eu hargymhellion.
Nod y trafodaethau a'r argymhellion hyn yw llunio'r fframwaith ar gyfer rheoleiddio llety i ymwelwyr yng Nghymru yn y dyfodol.
Y sefyllfa ar hyn o bryd:
- Cam 1 - Adroddiadau Pwyllgorau: Cyhoeddodd y pwyllgorau eu hadroddiadau ar 19 Rhagfyr 2025. Mae'r rhain ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd.
- Dadl Egwyddorion Cyffredinol: Bu'r Senedd yn trafod a chytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 13 Ionawr 2026.
- Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau yn ystod y ddadl Egwyddorion Cyffredinol, ac yn ysgrifenedig. Mae'r ymatebion hyn hefyd ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd.
- Cam 2: Gellir diwygio'r Bil yn ystod y cam hwn drwy welliant. Cynhaliwyd ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd o'r gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Chwefror.
- Cam 3: Cam diwygio pellach, lle ystyriwyd gwelliannau mewn sesiwn lawn gan y Senedd ar 10 Mawrth.
- Cam 4 - Pleidleisio ar y Bil terfynol gan y Senedd: lle pleidleisiwyd ar y Bil, fel y'i diwygiwyd yn dilyn camau 2 a 3. Ar 17 Mawrth pasiodd y Senedd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Bydd fersiwn o'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Ngham 2 ar gael ar dudalennau'r Bil ar wefan y Senedd.
Y camau nesaf: Gan fod y Bil wedi'i basio gan y Senedd, mae cyfnod byr pan fydd Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU neu'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu codi pryderon am gymhwysedd y Senedd i wneud y ddeddfwriaeth. Os nad oes unrhyw faterion yn cael eu codi, yna bydd yn mynd ymlaen am Gydsyniad Brenhinol. Os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol, caiff ei wneud yn Ddeddf.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen.