Galwad Olaf: Gwnewch gais nawr am y gronfa lliniaru effeithiau'r tywydd
Peidiwch â cholli’r cyfle i wneud cais am y rownd ddiweddaraf o gyllid drwy’r gronfa lliniaru effeithiau'r tywydd.
Mae’r grant hwn yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch bach ledled Cymru i wella amodau masnachu ac i greu profiad cynnes, cyfforddus a chroesawgar i ymwelwyr – beth bynnag ydi’r tywydd.
Os ydych yn ystyried uwchraddio mannau awyr agored, ychwanegu lloches, neu gwella cysur mewn tywydd gwlyb neu oer, gall y cyllid hwn eich helpu i wneud gwelliannau gwirioneddol werthfawr.
Gwiriwch os ydych yn gymwys, darllenwch y nodiadau canllaw, ac ewch ati i lenwi eich ffurflen gais.
Dyddiad cau: 1pm ddydd Llun, 27 Hydref 2025
Ni dderbynnir unrhyw geisiadau ar ôl yr amser hwn.
Peidiwch â cholli’r cyfle - cyflwynwch eich cais heddiw a helpwch i baratoi eich busnes ar gyfer y dyfodol.