Mae Le Tour de France yn dod i Gymru! Yn 2027, bydd y Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift yn cynnal eu tri chymal cyntaf ym Mhrydain Fawr – digwyddiad a elwir yn y Grand Départs.
Bydd y ras i ddynion yn dechrau yng Nghaeredin ar 2 Gorffennaf ac yn teithio i Gaerdydd, tra bydd y ras i ferched yn dechrau yn Leeds ar 30 Gorffennaf ac yn teithio i Lundain.
Bydd Le Tour de France yn cyrraedd Cymru ar 4 Gorffennaf, sef trydydd cymal y ras. Bydd y llwybr yn arwain y beicwyr o’r Trallwng, drwy bum sir, i Gaerdydd.
Eisiau gwybod mwy? Dyma rai ffeithiau a ffigurau.
Cymal 3 Llwybr Cymru
Bydd trydydd diwrnod a diwrnod olaf Grand Départ y Tour de France 2027 yn gweld Le Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd y llwybr yn cychwyn yng nghanol tref y Trallwng ac yn teithio drwy galon werdd Cymru. Bydd yn pasio drwy drefi marchnad gwledig Canolbarth Cymru, gan gynnwys Y Drenewydd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu.
Ar ôl Aberhonddu, daw’r dringfeydd anodd ac cyflym! Mae wyth dringfa wedi’u categoreiddio ar hyd y llwybr, gyda chwech o fewn yr 80 cilomedr olaf wrth i’r peloton deithio drwy a thros gymoedd de Cymru.
Bydd hyn yn arwain at orffeniad cyflym ar y disgyniad o gopa’r Côte de Caerffili i Gaerdydd, gan basio Castell Caerdydd cyn gorffen y tu allan i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Safleoedd nodedig ar hyd y llwybr:
- Castell Powis
- Yr Amgueddfa Feicio Genedlaethol, Llandrindod
- Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
- Mynydd Epynt
- Pen-y-Fan
- Zip World
- Castell Caerffili
- Castell Caerdydd
Gwyliwch yn fyw. Dilynwch bob eiliad.
Gallwch wylio Le Tour de France Grand Départ 2027 ar Channel 5, a bydd yr uchafbwyntiau’n cael eu dangos ar S4C. Dilynwch y sianeli cyfryngau cymdeithasol isod i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Le Tour de France:
- Tour de France 2027 Grand Départ (Saesneg yn unig)
- Beicio Cymru (Saesneg yn unig)
- Wales.com (Saesneg yn unig)