Cyfle hanesyddol i Gymru ddisgleirio ar lwyfan y byd
Yn 2027, bydd Cymru’n croesawu Le Tour de France am y tro cyntaf, gyda cham olaf y ras yn y DU yn teithio o’r Drenewydd i Gaerdydd. Mae hwn yn garreg filltir bwysig i dwristiaeth Cymru ac yn gyfle unigryw i arddangos ein tirweddau, ein llwybrau beicio a’r croeso cynnes y mae ymwelwyr yn ei gael hyd y wlad. Mae’n gyfle mawr i fusnesau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan, drwy denu ymwelwyr newydd a helpu i adeiladu cynnig beicio cryfach a fydd yn sicrhau buddion hirdymor ymhell ar ôl i'r ras ddod i ben.
Ble bynnag mae eich busnes yng Nghymru, bydd llwybr Le Tour de France o fewn tua dwy awr i chi. Mae hyn yn gwneud y digwyddiad yn gyfle cenedlaethol gyda manteision lleol, gan roi cyfle i fusnesau ledled Cymru elwa ar y cyffro a’r sylw rhyngwladol a ddaw yn ei sgil.
Map llwybr Cam 3 Le Tour de France
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru
Mae gan Gymru eisoes lawer o’r hyn y mae beicwyr yn ei werthfawrogi. O ddringfeydd heriol o safon fyd-eang a llwybrau addas i deuluoedd, i lwybrau di-draffig sy’n cynnig ffordd fwy hamddenol o feicio, mae rhywbeth at ddant pawb. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau llety unigryw a rhai o’r tirweddau mwyaf trawiadol a dramatig sydd i’w gweld yn y DU. Gyda dros 1,200 milltir o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ynghyd â chanolfannau beicio mynydd o’r radd flaenaf, llwybrau freeride cyffrous a theithiau anturus ar gyfer pob lefel o allu, mae gan Gymru bopeth sydd ei angen i fod yn gyrchfan feicio o’r radd flaenaf.
Gyda chynnig mor gryf ac amrywiol, mae gan Gymru bopeth sydd ei angen i ddenu beicwyr o bob math. Ond nid y llwybrau a’r tirweddau’n unig sy’n cyfrif – mae’r croeso a gaiff ymwelwyr yr un mor bwysig. Yn aml, gall profiad cadarnhaol wneud y gwahaniaeth rhwng ymweliad untro a dychweliad yn y dyfodol. Mae Le Tour de France yn gyfle unigryw i Gymru arddangos y croeso cynnes hwnnw ar lwyfan y byd. Mae hefyd yn gyfle i fwy o fusnesau ddeall gwerth y farchnad feicio a manteisio ar y buddion y gall eu cynnig, nid yn unig yn ystod y ras ond am flynyddoedd i ddod.
Nid yw’r cyfle hwn wedi’i gyfyngu i fusnesau ar hyd llwybr y ras yn unig. Gall busnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru elwa ar y sylw a’r ymwelwyr y bydd Le Tour de France yn eu denu. Bydd beicwyr yn chwilio am leoedd i fwyta ac yfed, yn aros dros nos, yn ymweld ag atyniadau lleol ac yn aml yn dychwelyd yn nôl ir ardal. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i brofiad ymwelwyr. Drwy greu croeso cynnes a darparu’r cyfleusterau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar feicwyr, gall busnesau helpu i gryfhau enw da Cymru fel cenedl sy’n croesawu beicwyr.
Dysgwch beth sy’n bwysig i feicwyr wrth ymweld - Ymchwil i anghenion beicwyr ar gyfer taith berffaith
Cymrwch ran yn Le Tour de France
Nawr yw’r amser i feddwl am y rôl y gall eich busnes chwarae.
P’un a ydych yn rhedeg llety, caffi, atyniad, tafarn, siop neu fusnes gweithgareddau, mae nifer o ffyrdd syml o wneud i feicwyr deimlo’n fwy croesawgar.
Drwy gymryd ychydig o gamau ymarferol nawr, gallwch helpu Cymru i wneud y mwyaf o Le Tour de France a chyfrannu at etifeddiaeth gadarnhaol a fydd o fudd i’r economi ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.
Adeiladu etifeddiaeth hirdymor
Pan fydd y peloton wedi symud ymlaen, bydd y cyfle’n parhau. Gwir werth Le Tour de France yw’r etifeddiaeth y gall ei gadael ar ôl – gan helpu i arddangos Cymru fel cyrchfan feicio, gwella profiadau ymwelwyr a chefnogi mwy o fusnesau i groesawu beicwyr yn hyderus.
Drwy wneud beicio yn rhan o’r profiad ymwelwyr ehangach, gall busnesau twristiaeth helpu i greu Cymru fwy croesawgar i bawb – boed yn ymwelwyr dydd, yn bobl ar wyliau neu’n archwilwyr lleol. Gall hefyd annog ymwelwyr i ddychwelyd, aros yn hirach a gwario mwy yn yr economi leol. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i gryfhau enw da Cymru fel cyrchfan sy’n hawdd ei ymweld ar ddwy olwyn.