Gall ychydig o fanylion bach wneud gwahaniaeth mawr

Maent yn helpu beicwyr i deimlo'n groesawgar ac maent yn fwy tebygol o aros yn hirach. Er eu bod yn syml i’w rhoi ar waith, gall y camau bach hyn wneud gwahaniaeth mawr.

I lawer o fusnesau, mae’n dechrau drwy gydnabod beicwyr fel ymwelwyr gwerthfawr a dangos hynny o’r eiliad y maent yn cyrraedd.

Croeso cynnes

  • Byddwch yn barod i roi croeso cynnes

Darparwch yr hanfodion

  • Storfa ddiogel a saff ar gyfer beiciau
  • Lle ar gyfer dillad gwlyb, helmedau a bagiau (ystafell sychu neu dywelion)
  • Mynediad hawdd at fannau ail-lenwi dŵr

Gwnewch bethau’n hawdd i feicwyr

  • Sicrhewch fod pwmp ac offer atgyweirio sylfaenol ar gael
  • Cynigiwch fwyd a diod i fynd
  • Defnyddiwch arwyddion clir fel bod beicwyr yn gwybod pa gyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael

Rhannwch gwybodaeth leol

  • Byddwch yn gyfarwydd â’r mathau o feicio sydd ar gael yn eich ardal (beicio mynydd, beicio ffordd, llwybrau graean neu feicio hamdden)
  • Argymhellwch 2–3 llwybr lleol – boed yn hawdd, yn olygfaol neu’n fwy heriol – neu cyfeiriwch ymwelwyr at offeryn llwybrau Beicio Cymru
  • Byddwch yn barod i gyfeirio beicwyr at y siop feiciau, caffi a’r lleoliad trwsio beics agosaf
  • Rhannwch wybodaeth am waith ffordd, cau llwybrau neu amodau lleol cyfredol
  • Awgrymwch lefydd gwych i aros, manau coffi neu lle i dynnu lluniau godidog ar hyd y ffordd

Cysylltwch â’r gymuned feicio leol

  • Cysylltwch â chlybiau a grwpiau beicio lleol er mwyn cynnwys ymwelwyr yn y gweithgareddau

Helpwch feicwyr i gynllunio’r daith ymlaen

  • Cyfeiriwch ymwelwyr at opsiynau trafnidiaeth a gwasanaethau cymorth teithio
  • Darparwch fapiau ac argymhellwch atyniadau, caffis a lleoedd gwych i fwyta yn yr ardal

Paratowch eich tîm

  • Sicrhewch fod eich tîm yn barod i groesawu beicwyr

Gwella profiad yr ymwelydd

  • Rhowch wybod i ymwelwyr ble y gallant wylio’r digwyddiad (am ddim ar Channel 5 ac uchafbwyntiau ar S4C)
  • Rhannwch yr offeryn Cynllunio Eich Llwybr i helpu ymwelwyr i ddarganfod mwy o Gymru

Mae camau bach yn gallu cael effaith fawr. Drwy sicrhau bod yr hanfodion yn eu lle, rydych yn fwy tebygol o annog beicwyr i ddychwelyd, aros yn hirach ac argymell eich busnes.

Straeon Perthnasol

Beddgelert ar y Brailsford Way, Gogledd Cymru

Le Tour de France yn dod i Gymru

Sut y gall busnesau twristiaeth fanteisio i’r eithaf ar Le Tour de France 2027 a helpu i adeiladu etifeddiaeth barhaol ar gyfer beicio yng Nghymru.