Sut mae beicwyr yn dewis eu cyrchfan
Nid yw penderfynu ble i fynd ar daith feicio yn syml. Mae beicwyr yn tynnu syniadau o sawl ffynhonnell. Mae’r mwyafrif (72%) yn ymchwilio ar Google neu wefannau eraill. Serch hynny, mae llawer eisoes â syniad bras cyn dechrau chwilio. Mae ymchwil ar-lein fel arfer yn helpu i fireinio’r syniad hwnnw i leoliad penodol.
Mae ysbrydoliaeth yn adeiladu dros amser. Mae pobl yn gweld cyrchfannau’n cael eu hyrwyddo neu’n clywed am brofiadau eraill. Mae dau o bob tri (66%) yn dibynnu ar argymhellion gan ffrindiau neu deulu. Mae dau o bob pump (40%) yn dychwelyd i leoedd y maent eisoes yn eu hadnabod.
Anghenion a disgwyliadau beicwyr o ran llwybrau a gwasanaethau
I’r rhan fwyaf o feicwyr, mae golygfeydd deniadol yn brif flaenoriaeth. Mae dau o bob tri (66%) yn dweud ei fod yn hanfodol, beth bynnag fo’r daith, y grŵp, yr oedran neu’r rhyw.
Yr eithriad yw teuluoedd a’r ymwelwyr hynny nad yw eu taith yn canolbwyntio’n bennaf ar feicio. Maent yn rhoi’r un pwyslais ar lwybrau sy’n rhydd o draffig moduro (os nad ydynt yn beicio ar ffyrdd).
Beth mae beicwyr mynydd yn chwilio amdano
Mae gan feicwyr mynydd ddwy brif flaenoriaeth:
- Maent am gael llwybrau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda, sy’n parhau ar agor ac yn rhydd o unrhyw beryglon - mae 56% yn dweud bod hyn yn hanfodol.
- Yn ail, maent yn gwerthfawrogi llwybrau heriol, gyda 46% yn eu hystyried yn hanfodol.
Gwasanaethau sy’n croesawu beicwyr
'Cael eich gwneud i deimlo'n gartrefol' yw’r prif ateb ym mhob grŵp o ymatebwyr. Mae tri o bob pump (60%) yn ei ystyried yn ‘hanfodol’.
Beth mae hyn yn ei olygu?
- Cael parch gan ddefnyddwyr eraill sy’n defnyddio ffyrdd neu lwybrau
- Gweld bod darparwyr gwasanaeth mewn ardal wedi paratoi i ddiwallu anghenion beicwyr
- Gweld agwedd gyfeillgar tuag at feicwyr ymhlith y boblogaeth leol
Mae llety a chaffis hefyd yn chwarae rôl bwysig iawn
- Mae ‘llety gyda storfa feiciau ddiogel o dan do’ yn cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ gan bron hanner (45%) o feicwyr
- Mae ‘caffis gyda mannau diogel i gadw beic’ yn cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ gan 39%
Ymchwil flaenorol
Datblygu twristiaeth beicio
Mae’r ymchwil hwn yn adeiladu ar waith blaenorol a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid, a ddangosodd:
- Mae rhanddeiliaid yn awyddus iawn i weld twristiaeth feicio yn cael ei datblygu yng Nghymru, ac mae’r diwydiant lletygarwch hefyd yn gefnogol iawn.
- Mae adborth rhanddeiliaid a’r ymchwil desg yn dangos bod y cynnyrch sydd ei angen i ddenu twristiaid beicio eisoes yn bodoli i raddau helaeth yng Nghymru.
- Y pwyslais yw ar wella a chynnal y cynnyrch presennol yn hytrach na datblygu nifer sylweddol o lwybrau neu deithiau newydd.
- Mae’r DU y tu allan i Gymru, yn bennaf Lloegr, yn farchnad hollbwysig ar gyfer twristiaeth feicio yng Nghymru.
- Mae’r gwanwyn a’r hydref yn gyfnodau o alw cryf am feicio yng Nghymru.
Gellir darllen yr adroddiad yma: Datblygu twristiaeth feicio | LLYW.CYMRU