Gweithdy ymarferol am ddim, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan MWT Cymru ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.
Yn dilyn y galw aruthrol a'r adborth rhagorol a gafwyd yn y rownd gyntaf, rydyn ni wedi trefnu rhagor o weithdai i helpu hyd yn oed mwy o fusnesau i fanteisio ar bŵer AI. Dysgwch sut y gall AI eich helpu i farchnata'n well, eich gwneud yn fwy amlwg ar-lein, ac arbed eich amser prin ar dasgau pob dydd.
Dywedodd y busnesau a fuodd yn y gweithdy o'r blaen iddyn nhw weld cynnydd o 63% ar gyfartaledd yn y traffig organig â'u gwefan, gan ddangos effaith y sesiynau ymarferol hyn yn y byd go iawn.
Os ydych wedi clywed pobl yn siarad am “AI” ac yn eddwl tybed a yw’n werth eich amser – mae’r gweithdy hwn ar eich cyfer chi.
Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu
Byddwn yn dangos ffyrdd ymarferol syml i chi ddefnyddio offer AI i greu cynnwys, cysylltu â chwsmeriaid, cryfhau eich presenoldeb ar-lein a helpu i droi ymholiadau'n archebion. Byddwch yn dysgu sut i:
- Creu postiadau cyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi sylw, ymgysylltiad ac archebion heb dreulio oriau ar gynnwys.
- Optimeiddio eich rhestrau Croeso Cymru a Google fel eu bod yn glir, yn gymhellol ac yn hawdd i gwsmeriaid ac offer chwilio AI ddod o hyd iddynt a'ch dewis chi!
- Ymateb yn gyflym i gwestiynau cwsmeriaid gyda negeseuon cyfeillgar, proffesiynol sy'n adeiladu ymddiriedaeth ac yn rhyddhau eich amser.
- Arbed oriau ar gynnwys, diweddariadau ac e-byst, gan roi mwy o le i chi ganolbwyntio ar redeg eich busnes yn hytrach na gweinyddu.
Rhannu straeon a llwyddiannau
Dysgwch sut mae busnesau sydd wedi bod yn ein gweithdai wedi defnyddio AI i farchnata'n well, cryfhau eu presenoldeb ar-lein ac arbed amser gwerthfawr.
Pwy all fynd
Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol.
I ganiatáu i gymaint o fusnesau ag sy’n bosibl fynychu, mae nifer y lleoedd wedi’i chyfyngu i uchafswm o ddau ym mhob busnes/sefydliad ar draws y gyfres. Rhaid llenwi ffurflen archebu ar wahân ar gyfer pob person.
Beth i'w ddisgwyl
Nid yw hyn yn ymwneud â thechnoleg gymhleth na geiriau poblogaidd. Mae'n ymwneud â dulliau syml, cost isel y gallwch ddechrau eu defnyddio ar unwaith, gydag arweiniad cam wrth gam, demos byw, a gweithgareddau ymarferol drwyddi draw.
Byddwn hefyd yn trafod sut y gall newidiadau bach fel diweddaru eich rhestrau neu addasu geiriad eich gwefan, wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'ch busnes ac ymddiried ynddo ar-lein.
Byddwch yn gadael gyda chamau clir y gallwch eu cymryd yr un diwrnod, boed hynny'n gynllunio eich ychydig bostiadau nesaf neu wneud yn siŵr bod eich busnes yn ymddangos yn y lleoedd iawn.
Eisiau help ychwanegol?
Arhoswch o gwmpas ar gyfer y sesiwn prynhawn dewisol – ein Labordy Gweithredu – lle byddwn yn gweithio gyda chi un-i-un neu mewn grwpiau bach i droi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn weithredu ymarferol ar unwaith.
Manylion y Gweithdai AI
- 9:00 yb i ddechrau am 10:00 yb
- 1:00 yp – 1:45 yp Darperir cinio ysgafn
- 2:00 yp: "Y Labordy Gweithredu" (Sesiwn prynhawn dewisol)
- 3:30 yp tan cau
Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan gyflwynydd Saesneg ac fe'u cefnogir gan sleidiau a thaflenni cwbl ddwyieithog. Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn lle gallwch gymryd rhan a chyfrannu yn Gymraeg, cofrestrwch eich diddordeb yma.
Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynir gweithdai gan MWT Cymru (Saesneg yn unig), sefydliad nid-er-elw sydd wedi bod yn helpu busnesau twristiaeth yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Mae MWT Cymru yn arbenigo mewn ffyrdd syml, effeithiol o roi hwb i'ch gwelededd a gwneud marchnata digidol yn llai o straen.
Gwybodaeth archebu
Er bod y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt. Archebwch dim ond os ydych chi wedi ymrwymo i fynd.
Pwysig: rhaid i chi glicio'r botwm 'Book' ar y ffurflen gofrestru i archebu lle. Yna cewch e-bost cadarnhau awtomatig gyda rhif cyfeirnod. Os na fyddwch wedi cael e-bost, ni fydd lle wedi'i gadw i chi.
Os nad yw unrhyw un o'r gweithdai sydd wedi'i drefnu yn gyfleus i chi, nodwch y lleoliad y byddai'n well gennych ar gyfer sesiynau posibl yn y dyfodol yma.