Cynlluniau marchnata ar gyfer 2027

P'un a ydych yn fusnes twristiaeth, yn randdeiliaid, neu'n bartner diwydiant, mae'r weminar hon sydd am ddim yn gyfle gwych i:
 

  • Fod y cyntaf i glywed am flwyddyn thematig newydd Croeso Cymru, Blwyddyn Beicio. 
  • Darganfod sut rydym yn bwriadu gwneud 2027 yn ddathliad o bob math o feicio a phrofiadau ledled Cymru a sut y gall eich busnes gymryd rhan i wneud y mwyaf o gyfleoedd.
  • Dysgu am ein cynlluniau ar gyfer ymgyrch Blwyddyn Beicio 2027, gan gynnwys cyfeiriad creadigol, cynulleidfaoedd targed a chynlluniau'r cyfryngau.
  • Clywed sut mae Croeso Cymru yn paratoi ar gyfer y Tour de France Grand Départ yng Nghymru a'r cyfleoedd y mae'n ei gynnig i arddangos Cymru fel cyrchfan twristiaeth, a thyfu pob math o dwristiaeth beicio yn 2027 a'r tu hwnt i hynny.
  • Darganfod yr adnoddau a'r asedau marchnata am ddim sydd ar gael i gefnogi'ch gweithgareddau hyrwyddo eich hun.
  • Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a'r diweddariadau busnes.
  • Darganfod sut y gall eich busnes elwa o gynllun Gwobr Croeso i Feicwyr a'r cyllid sydd ar gael.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb fyw ar ddiwedd y weminar, gan roi cyfle i chi ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i dîm Croeso Cymru.
 

Cofrestru ar agor. Archebwch eich lle am ddim heddiw. 

Gweminar marchnata Blwyddyn Beicio

26 Tachwedd 2026

Bydd y gweminar am ddim yn cael ei chynnal trwy Microsoft Teams ar 26 Tachwedd 2026 rhwng 2:00 yp a 3:30 yp. 

Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru: Digwyddiadau ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch | Diwydiant

Ymwadiad: Mae’r weminar hon ar gyfer unigolion yn unig. Peidiwch â defnyddio botiau AI na systemau awtomatig i ymuno â’n cyfarfodydd rhithwyr. Os ydyn ni’n credu bod bot AI yn cael ei ddefnyddio bydd y cyfranogwr yn cael ei dynnu a’i wahodd i ailymuno pan fydd y swyddogaeth AI wedi cael ei diffodd. Bydd recordiad llawn o’r weminar ar gael ar ein gwefan diwydiant ar ôl y digwyddiad. 

Mae cymryd rhan yn ddarostyngedig i Hysbysiadau Preifatrwydd y Diwydiant Twristiaeth | Diwydiant Croeso Cymru, sy’n amlinellu sut mae recordiadau o weminarau a data mynychwyr yn cael eu trin yn unol â’r GDPR

 

 

Straeon Perthnasol

Beddgelert ar y Brailsford Way, Gogledd Cymru

Le Tour de France yn dod i Gymru

Sut y gall busnesau twristiaeth fanteisio i’r eithaf ar Le Tour de France 2027 a helpu i adeiladu etifeddiaeth barhaol ar gyfer beicio yng Nghymru.

Gŵyr, Gorllewin Cymru

Croesawch feicwyr gyda chroeso Cymreig cynnes.

Gall pethau syml fel storfa ddiogel i feiciau, mannau ail-lenwi poteli dŵr a rhannu gwybodaeth am lwybrau lleol wneud gwahaniaeth mawr. Y nod yw sicrhau bod beicwyr yn teimlo eu bod yn cael croeso cynnes ac yn cael eu hannog i aros yn hirach.

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw