Wrth i ni baratoi i groesawu’r Tour de France i Gymru, mae ein hymgyrch Blwyddyn Beicio 2027 yn gyfle i droi’r sylw hwn yn fwy o ymweliadau, archebion a gwariant ledled Cymru yn 2027 a thu hwnt.
A does dim rhaid i’ch busnes fod ar lwybr y Tour, na bod yn fusnes beicio, i elwa.
Gallwch wneud y mwyaf o Flwyddyn Beicio drwy:
-
Gwnewch i’n hymgyrch Blwyddyn Beicio weithio i’ch busnes
- Meddyliwch am beth sy’n gwneud i ymwelwyr stopio yn eich rhan chi o Gymru – gallai cinio flasus, stori leol neu olygfa annisgwyl droi stop cyflym yn brynhawn cyfan, neu daith undydd yn arhosiad dros nos. Helpwch ymwelwyr i ddarganfod mwy o resymau dros aros yn hirach, crwydro ymhellach a gwario’n lleol.
- Rhowch reswm i bobl stopio – dywedwch wrth ymwelwyr am y lleoedd, profiadau, bwyd a straeon diddorol yn eich cymunedau lleol.
- Meddyliwch am yr hyn sydd gennych i’w gynnig a’i hyrwyddo – ystyriwch becynnau neu brofiadau sy’n cysylltu eich busnes â beicio, cerdded, bwyd, diwylliant neu weithgareddau eraill gerllaw, a’u hyrwyddo.
- Meddyliwch y tu hwnt i’r beiciwr – gall ymwelwyr sy’n dod i feicio deithio gyda ffrindiau a theulu sydd eisiau gweld a gwneud pethau gwahanol.
- Cymerwch ran yn yr ymgyrch – defnyddiwch Flwyddyn Beicio yn eich gwaith marchnata a’ch cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio asedau ymgyrchu, negeseuon a logo diwydiant Croeso Cymru am ddim. Bydd y rhain ar gael yn fuan ar wefan Asedau Brand Cymru Wales – cofiwch edrych eto.
- Rhannwch eich cynlluniau gyda ni – rhowch wybod i ni am gynnyrch, pecynnau, digwyddiadau a phrofiadau newydd a allai ein helpu i adrodd stori beicio Cymru yn 2027. Anfonwch y wybodaeth at productnews@llyw.cymru
- Cadwch eich rhestriad cynnyrch neu ddigwyddiad ar visitwales.com yn gyfredol – gall busnesau sydd wedi’u graddio restru cynnyrch neu ddigwyddiadau am ddim ar visitwales.com, gan helpu i gyrraedd ymwelwyr sy’n cynllunio taith i Gymru. Mae ein hymgyrchoedd yn denu ymwelwyr i’r wefan, ac mae rhestriad hefyd yn cynyddu’r siawns y bydd eich busnes yn ymddangos mewn canlyniadau ac argymhellion AI. Cadwch eich rhestriad yn gyfredol i wneud y mwyaf o’ch gwelededd.
-
Paratoi eich busnes i groesawu beicwyr
- Dysgwch fwy am anghenion beicwyr – darganfyddwch beth sydd ei angen ar feicwyr i gael taith wych, beth sy’n eu hysbrydoli wrth ddewis taith a beth sy’n bwysig iddynt wrth gynllunio. Dysgwch fwy am dwristiaeth feicio yng Nghymru a darllenwch ein hymchwil i ddewisiadau beicwyr ar gyfer teithiau a gwyliau beicio.
- Ystyriwch y cyfleusterau y gallwch eu cynnig – dechreuwch gyda’r pethau sylfaenol: lle diogel i gadw beiciau; lle ar gyfer dillad gwlyb, helmedau a bagiau, fel ystafell sychu neu dywelion; a mynediad hawdd at ddŵr yfed. Pethau bach yw’r rhain, ond gallant wneud gwahaniaeth mawr i brofiad beicwyr. Meddyliwch hefyd am sut gallwch greu profiad sy’n hygyrch i bob ymwelydd. Edrychwch ar gyfleoedd cyllido i gefnogi gwelliannau, a’n cyngor ar greu profiadau i bawb.
- Rhowch yr wybodaeth a’r sgiliau cywir i’ch tîm – helpwch eich staff i ddeall anghenion beicwyr a chynnig croeso cynnes a chyson. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am lwybrau beicio cyfagos, argymhellion lleol a gwybodaeth ymarferol y gallant ei rhannu ag ymwelwyr. Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn cynnig cymorth hyfforddi i helpu i feithrin sgiliau a hyder eich tîm a gwella profiad ymwelwyr.
- Gwnewch i AI weithio i’ch busnes – ewch i un o’n cyrsiau AI i fusnesau twristiaeth i ddysgu ffyrdd ymarferol o ddefnyddio offer AI. Gall hyn eich helpu i greu cynnwys am feicio, cysylltu â chwsmeriaid a chryfhau eich presenoldeb ar-lein. Dysgwch fwy am AI ar waith: gweithdy ymarferol am ddim.
-
Manteisiwch ar Wobr Croeso Beicwyr a’i hyrwyddo yn eich gwaith marchnata
Gwnewch gais am eich Gwobr Croeso i Feicwyr- Mae’r cynllun Gwobr Croeso i Feicwyr yn helpu beicwyr i ddod o hyd i fusnesau sydd â’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, ac yn dangos bod eich busnes yn barod i roi croeso cynnes iddyn nhw.
- Canfu ein hymchwil diweddar fod 60% o feicwyr yn ystyried croeso cynnes yn hanfodol. Gyda’r Tour de France yn tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan feicio, gall bod yn rhan o’r cynllun Gwobr Croeso i Feicwyr helpu eich busnes i gynnig profiad cofiadwy i ymwelwyr.
-
Rhoi croeso cynnes i bobl sy’n crwydro Cymru ar feic
- Cynigiwch groeso cynnes – Rhowch groeso Cymreig cynnes i feicwyr drwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd. Defnyddiwch yr awgrymiadau yma yn Naws am Le i helpu i greu profiad Cymreig gwirioneddol gofiadwy.
- Gwnewch y pethau sylfaenol yn hawdd – cynigiwch bwmp trwsio a theclyn aml-bwrpas; bwyd a diod i fynd; ac arwyddion clir fel bod beicwyr yn gwybod pa gyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael.
- Rhannwch eich gwybodaeth leol – dewch i adnabod y mathau o feicio sydd ar gael yn eich ardal, boed yn feicio mynydd, ffordd, graean neu hamdden. Rhannwch wybodaeth am lwybrau beicio cyfagos ac argymhellwch ddau neu dri llwybr lleol, er enghraifft un hawdd, un golygfaol ac un mwy heriol. Gallwch hefyd gyfeirio ymwelwyr at adnodd digidol Croeso Cymru i ddarganfod llwybrau beicio. Byddwch yn barod i argymell siopau beiciau, caffis, mannau llogi beiciau a gwasanaethau trwsio lleol. Rhannwch wybodaeth am waith ffordd, llwybrau sydd ar gau neu amodau lleol, neu dangoswch i ymwelwyr ble i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf. Awgrymwch lefydd golygfaol i stopio, llefydd da am goffi a mannau gwych i dynnu lluniau. Gallwch hefyd helpu ymwelwyr i gynllunio gweddill eu taith drwy rannu gwybodaeth am drafnidiaeth, mapiau, atyniadau cyfagos a llefydd i fwyta.
- Cysylltwch â’ch cymuned – cydweithiwch â chlybiau beicio lleol, atyniadau, darparwyr llety a sefydliadau eraill. Chwiliwch am gyfleoedd i hyrwyddo eich gilydd, denu ymwelwyr a chydweithio ar weithgarwch marchnata i arddangos yr hyn sydd gan eich ardal i’w gynnig a chyrraedd cynulleidfa ehangach.
-
Byddwch yn rhan o’r Tour de France yng Nghymru
- Paratowch eich busnes – meddyliwch am y cyfleusterau sydd eu hangen arnoch a gwnewch yn siŵr bod eich staff yn barod. Os yw’n berthnasol i’ch busnes, cynlluniwch ar gyfer parcio a mynediad, ac ystyriwch ymestyn eich oriau agor os bydd galw. Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am feicio a dolenni perthnasol, a hyrwyddwch yr hyn sydd gan eich busnes i’w gynnig i gymunedau beicio. Cadwch lygad hefyd ar y wybodaeth ddiweddaraf am y Tour de France ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Dathlwch y Tour de France – cynhaliwch neu hyrwyddwch ddigwyddiadau lleol i wylio’r ras a dewch ag ychydig o awyrgylch y Tour i’ch busnes. Gwnewch fwy o ddiwrnod y ras drwy roi rhesymau i ymwelwyr gyrraedd yn gynnar neu aros yn hirach. Gallech gynnal digwyddiad bwyd a diod lleol cyn neu ar ôl y ras, trefnu gweithgareddau i’r teulu neu rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Tour de France ar eich cyfryngau cymdeithasol.
- Helpwch ymwelwyr i fwynhau’r ras – rhannwch wybodaeth ddefnyddiol am fannau gwylio swyddogol y ras, ble i ddod o hyd i wybodaeth am deithio a ffyrdd sydd ar gau, beth i ddod gyda nhw, ble i fwyta, pa gyfleusterau sydd ar gael a beth arall sydd i’w weld a’i wneud yn yr ardal. Cadwch eich gwefan yn gyfredol a rhannwch y wybodaeth ddiweddaraf am y Tour de France, gan gynnwys gwybodaeth i wylwyr ac am deithio. Dysgwch fwy am y Tour de France yn dod i Gymru yn 2027.
- Ar ôl y Tour – parhewch i gynnig eich pecynnau a’ch profiadau beicio ac anogwch ymwelwyr i ddod yn ôl i ddarganfod rhagor o Gymru. Cadwch y cysylltiadau rydych wedi’u meithrin â busnesau lleol a pharhewch i hyrwyddo beicio yn y gwanwyn a’r hydref, yn ogystal â’r haf.
-
Gweithio gyda ni i wneud y mwyaf o Tour de France a Blwyddyn Beicio 2027
Gweithio gyda niMae llawer mwy o ffyrdd o gysylltu â Croeso Cymru a gweithio gyda ni yn ystod Blwyddyn Beicio. Gallwch weithio gyda’n timau i gyrraedd marchnadoedd Teithio Masnach a Digwyddiadau Busnes ledled y byd, dilyn a rhannu ein cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, a sicrhau ansawdd eich cynnyrch.
Darganfyddwch sut i fanteisio ar ein cynlluniau, gweithio gyda ni a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i’ch sefydliad.
Gweithdy a lle storio beiciau yn The Lodge, Staylittle | Seibiant am baned ar ôl diwrnod o feicio yn Llandudno
© Hawlfraint y Goron / Crown Copyright
© Hawlfraint y Goron / Crown Copyright