Yn 2027, bydd Cymru’n croesawu Le Tour de France am y tro cyntaf, gyda chymal olaf y DU yn rhedeg o’r Trallwng i Gaerdydd. Mae’n garreg filltir i dwristiaeth Cymru. Mae’n gyfle i arddangos ein tirweddau a’n llwybrau, ynghyd â chynhesrwydd, cymeriad a’r croeso cynnes y gall ymwelwyr ei ddisgwyl ledled Cymru.

Ble bynnag mae eich busnes, bydd llwybr Le Tour de France o fewn tua dwy awr i chi. Mae hyn yn ei wneud yn achlysur cenedlaethol sy’n cynnig cyfleoedd lleol i fusnesau ledled Cymru.

Gwyliodd dros 145 miliwn o bobl Tour de France Grand Départ 2026 ar y teledu ac ar-lein. Disgwylir dros filiwn o wylwyr yng Nghymru ar gyfer y cymal Cymreig ar 4 Gorffennaf 2027.

Byddwn yn defnyddio’r cyfle hwn i ddathlu beicio ac arddangos Cymru drwy lansio Blwyddyn Beicio 2027.

O gymunedau ar hyd y llwybr i fusnesau ledled Cymru, dyma gyfle i fod yn rhan o flwyddyn nodedig a dangos y gorau o Gymru i ymwelwyr.

Cymerwch ran a byddwch yn rhan o’r cyfle.

Straeon Perthnasol

Beddgelert ar y Brailsford Way, Gogledd Cymru

Le Tour de France yn dod i Gymru

Sut y gall busnesau twristiaeth fanteisio i’r eithaf ar Le Tour de France 2027 a helpu i adeiladu etifeddiaeth barhaol ar gyfer beicio yng Nghymru.

Lôn Cambria Cycle Route, Y Trallwng, Canolbarth Cymru

Cymerwch ran ym Mlwyddyn Beicio 2027

Gall pethau syml fel storfa ddiogel i feiciau, mannau ail-lenwi poteli dŵr a rhannu gwybodaeth am lwybrau lleol wneud gwahaniaeth mawr. Y nod yw sicrhau bod beicwyr yn teimlo eu bod yn cael croeso cynnes ac yn cael eu hannog i aros yn hirach.

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw