Ar 4 Gorffennaf 2027, bydd y Tour de France (TdF) yn dod i Gymru, gan roi Cymru o flaen cynulleidfa fyd-eang enfawr. Ond mae’r cyfle’n ymestyn ymhell y tu hwnt i un diwrnod neu un ras. Bydd ein hymgyrch Blwyddyn Beicio yn defnyddio’r sylw hwnnw i arddangos tirweddau, diwylliant, bwyd a phrofiadau Cymru, gan greu cyfleoedd i fusnesau twristiaeth ledled Cymru.

Beicio sy’n denu’r sylw, Cymru yw’r hyn rydyn ni’n ei arddangos

Ym mis Ionawr 2027, byddwn yn lansio ein hymgyrch farchnata twristiaeth flaenllaw, Blwyddyn Beicio. Byddwn yn defnyddio’r diddordeb a’r sylw sy’n gysylltiedig â beicio i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn ehangach o lawer, gan ysbrydoli ymwelwyr i ddarganfod popeth sydd gan Gymru i’w gynnig, ar y beic ac oddi arno.

Rydym yn marchnata Cymru drwy lens beicio, gan ddefnyddio beicio fel ffordd o arddangos ein tirweddau, ein diwylliant, ein hiaith, ein bwyd, ein cymunedau a phrofiadau sydd ond ar gael yng Nghymru. Bydd y Tour yn dod â chyfnod o sylw byd-eang, a bydd ein hymgyrch yn defnyddio’r sylw hwnnw i hyrwyddo cyrchfannau a phrofiadau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.
 

Am yr ymgyrch

  • Pam mae ‘stopio’ wrth wraidd ein hymgyrch

    Bydd ein hymgyrch newydd yn dathlu’r syniad bod teithio o amgylch Cymru yn rhan o’r antur, gyda rheswm bob amser i stopio, archwilio a darganfod rhywbeth newydd ar hyd y ffordd. Mae’n syniad y gall pob busnes twristiaeth ei gefnogi.

    Mae ein mewnwelediad yn dweud wrthym nad yw’r rhan fwyaf o ymwelwyr â Chymru yn chwilio’n benodol am wyliau beicio. Felly, yn hytrach na gwneud yr ymgyrch yn un sy’n ymwneud â beicio yn unig, rydym wedi cael ein hysbrydoli gan rywbeth y mae beicwyr yn ei wneud yn dda: sef stopio i ddarganfod beth sydd o’u cwmpas.

    Yn ôl dadansoddiad o fwy na 25 miliwn o deithiau beicio yn y DU, mae beicwyr yng Nghymru yn rhannu mwy o leoedd, awgrymiadau a lluniau nag mewn mannau eraill yn y DU. (Komoot)

    Mae’r syniad hwn wrth wraidd ein hymgyrch: defnyddio ymddygiad beicwyr i adrodd stori lawer ehangach am ddarganfod Cymru.

    Byddwn hefyd yn cydweithio â Geraint Thomas ar ran o’n hymgyrch sy’n canolbwyntio ar feicio. Bydd yn cyfuno ei brofiad fel beiciwr, ei gariad at Gymru a’i hiwmor i ysbrydoli beicwyr i ddarganfod mwy o Gymru. 

    Byddwn yn gallu rhannu’r cynnwys hwn â chi o fis Ionawr ymlaen.

  • Sut rydym yn dod â’r Flwyddyn Beicio yn fyw

    Byddwn yn hyrwyddo Cymru i ddwy garfan benodol o’r gynulleidfa

    • Y gyrchfan yn gyntaf – ymwelwyr o Gymru, gweddill y DU ac yn rhyngwladol; maent yn ymweld â Chymru am y diwylliant, y dirwedd a’r antur
    • Beicio yn gyntaf – cynulleidfa fwy arbenigol sy’n teithio drwy gydol y flwyddyn, yn gwario’n dda, yn dychwelyd ac yn dylanwadu ar eraill

    Bydd ein hymgyrch integredig yn cynnwys

    • Hysbysebu digidol taledig – ar Meta, Pinterest, TikTok, YouTube, a hysbysebion ChatGPT, hysbysebu chwilio PPC a hysbysebu arddangos rhaglennol
    • Partneriaethau – gyda Komoot, Rouler ac eraill
    • Fideo ar Alw, Ffrydio ar Alw a Theledu Llinol – ar draws S4C, ITV, Disney plus, Amazon, Netflix a C4 
    • Rhaglen o weithgareddau cysylltiadau cyhoeddus – cynnal teithiau i’r wasg a gweithio gyda’r cyfryngau, dylanwadwyr a chrewyr cynnwys yn y DU ac yn rhyngwladol
    • Hysbysebion podlediadau
    • Cynnwys ategol ar bob un o’n gwefannau ac ar draws ein cyfryngau cymdeithasol organig
    • Hysbysebu y Tu Allan i’r Cartref – hyrwyddo Cymru mewn lleoliadau trefol allweddol ym Manceinion, Lerpwl a Birmingham ym mis Ionawr
    • Rhaglen gynhwysfawr i’r fasnach deithio sy’n hyrwyddo Cymru a’r ymgyrch mewn digwyddiadau allweddol fel Britain and Ireland Marketplace ac ITB Berlin.

Deall pwy yw ein cynulleidfa

Pwy rydym yn eu targedu

Bydd ein hymgyrch Blwyddyn Beicio yn hyrwyddo Cymru i ymwelwyr o’r DU ac yn rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar ddwy gynulleidfa eang. I un ohonynt, Cymru yw’r prif atyniad a gall beicio fod yn rhan o’r profiad. I’r llall, beicio yw’r prif reswm dros ddewis eu taith.

Gall deall yr hyn y mae ymwelwyr ei eisiau o’u taith hefyd eich helpu i deilwra eich marchnata, arddangos profiadau perthnasol a chysylltu â darpar gwsmeriaid.

  • Cynulleidfa 1: y gyrchfan yn gyntaf

    Mae’r ymwelwyr hyn yn dewis Cymru am ei thirweddau, ei diwylliant, ei bwyd a’i phrofiadau. Efallai eu bod yn teithio fel teuluoedd, cyplau neu grwpiau o ffrindiau, yn chwilio am fwy am eu harian, amser gyda’i gilydd a chyfleoedd i ymlacio, archwilio a chreu atgofion.

    Maent eisiau help i ddychmygu eu taith a deall sut mae popeth yn cyd-fynd. Gallai beicio fod yn ffordd bleserus o archwilio, ond nid dyna o reidrwydd y rheswm dros eu hymweliad.

    Ar gyfer eich busnes: Dangoswch sut mae’r hyn rydych yn ei gynnig yn rhan o wyliau ehangach, gan dynnu sylw at leoedd i fwyta, atyniadau a phrofiadau gerllaw, ochr yn ochr ag opsiynau beicio hawdd lle bo hynny’n berthnasol.

  • Cynulleidfa 2: beicio yn gyntaf

    Mae’r ymwelwyr hyn yn cynllunio eu gwyliau o amgylch beicio. Maent eisoes yn feicwyr brwd ac eisiau gwybodaeth fanwl i’w helpu i gynllunio, o feicio ffordd a beicio mynydd i feicio graean, beicio trydan a phrofiadau beicio hamdden.

    Mae rhai’n cael eu hysgogi gan ddringfeydd eiconig, llwybrau heriol neu deithiau beicio y maent wedi breuddwydio am eu gwneud. Mae llety sy’n croesawu beicwyr, cyfleusterau da a gwybodaeth glir am lwybrau yn eu helpu i ddewis ble i aros. Mae’r gynulleidfa hon yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymweliadau drwy gydol y flwyddyn, gwariant gan ymwelwyr, argymhellion ac ymweliadau pellach.

    Ar gyfer eich busnes: Gwnewch yr hyn rydych yn ei gynnig i feicwyr yn hawdd dod o hyd iddo, gyda gwybodaeth glir am lwybrau, cyfleusterau a gwasanaethau sy’n croesawu beicwyr gerllaw.

Cyfle i fusnesau ledled Cymru

  • Ddim yn agos at lwybr y Tour de France? Gall eich busnes dal elwa

    Bydd y Tour yn helpu i roi Cymru yn y sylw, ond nod y Flwyddyn Beicio yw ysbrydoli pobl i ddarganfod y wlad gyfan. P’un a yw eich busnes yn Sir Benfro, Eryri, Ynys Môn, Canolbarth Cymru neu Ddyffryn Gwy, meddyliwch am y profiadau y gallai ymwelydd eu darganfod yn eich ardal a sut y gallwch ddefnyddio’r Flwyddyn Beicio fel rheswm arall dros ymweld.

  • Ddim yn ‘fusnes beicio’ yn unig? Gall eich busnes dal elwa

    Mae rhywun sydd wedi’i ysbrydoli gan feicio yn dal i fod angen rhywle i gysgu, rhywle i fwyta, pethau i’w gweld a phrofiadau i’w mwynhau. Os ydych yn rhedeg llety, atyniad, busnes gweithgareddau, caffi, bwyty, tafarn, siop neu brofiad i ymwelwyr, y cyfle yw dod yn rhan o daith ehangach i Gymru.

  • Sut gall eich busnes gymryd rhan

    Mae digon o ffyrdd y gall eich busnes gefnogi ymgyrch Blwyddyn Beicio a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.

    Darganfyddwch ffyrdd o gymryd rhan yn y Flwyddyn Beicio

Paratowch ar gyfer 2027

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ac adnoddau i helpu busnesau i fanteisio i’r eithaf ar y Flwyddyn Beicio, gan gynnwys deunyddiau’r ymgyrch a chyfleoedd i gymryd rhan.

Bydd y Tour de France yn tynnu sylw’r byd at Gymru. Gyda’n gilydd, gallwn roi digon o resymau i ymwelwyr aros a darganfod mwy.

Straeon Perthnasol

Lôn Cambria Cycle Route, Y Trallwng, Canolbarth Cymru

Cymerwch ran ym Mlwyddyn Beicio 2027

Gall pethau syml fel storfa ddiogel i feiciau, mannau ail-lenwi poteli dŵr a rhannu gwybodaeth am lwybrau lleol wneud gwahaniaeth mawr. Y nod yw sicrhau bod beicwyr yn teimlo eu bod yn cael croeso cynnes ac yn cael eu hannog i aros yn hirach.