Diolch i'r holl fusnesau a'r sefydliadau hynny a ddaeth i Sioeau Teithiol rhanbarthol Croeso Cymru. Roedd llawer wedi mynychu'r pedwar digwyddiad ac ym mhob un rhannom wybodaeth am:
- Y prosiectau buddsoddi diweddaraf
- Cynlluniau marchnata strategol ac offer hawdd eu defnyddio i randdeiliaid
- Sut y gall Digwyddiadau Cymru weithio gyda'r diwydiant i sicrhau amrywiaeth o ddigwyddiadau
- Y canfyddiadau ymchwil a mewnwelediadau diweddaraf
Roedd cyfle hefyd i glywed oddi wrth Gadeiryddion pob un o'r Fforymau Twristiaeth Ranbarthol, a rhoddodd siaradwyr gwadd o'r diwydiant gyflwyniadau rhagorol yr oeddem yn falch o gael eu recordio. Bydd cynnwys y cyflwyniadau hynny, yn ogystal â bod o ddiddordeb yn rhanbarthol, hefyd o ddiddordeb i lawer o randdeiliaid ledled Cymru.
Y cyflwyniadau a wnaed yn ystod y sioeau teithiol
Gallwch wylio'r cyflwyniadau a wnaed yn ystod y sioeau teithiol a gwrando ar recordiadau o'r siaradwyr gwadd rhanbarthol isod:
- Croeso
- Buddsoddi mewn cynhyrchion a lleoedd:
- Marchnata – Cyfeiriad strategol | Ffilm
- Digwyddiadau: Cydweithio
- Ymchwil a Mewnwelediadau:
- Siaradwyr gwadd rhanbarthol (recordiadau o'r cyflwyniadau):
Pynciau trafod y panel Holi ac Ateb
Bu'r panel Holi ac Ateb yn trafod y pynciau a ganlyn:
- Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru
- Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
- Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghori ar ryddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru (16 Mai 2023)
- Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru – crynodeb o’r ymatebion (9 Chwefror 2023)
- Bwletin Newyddion: Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol
- Cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru
- Ardoll ymwelwyr i Gymru
Sesiynau trafod y prynhawn
Digwyddiadau Cymru
Edrych ar gyfraniad digwyddiadau i flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys twristiaeth - cyfleoedd, heriau a'r dyfodol.
Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB)
Sut i gael rhagor o archebion a chyrraedd cwsmeriaid newydd gyda TXGB - y platfform sy'n cysylltu systemau archebu twristiaeth y DU neu rhestr eiddo eich hun â rhwydwaith byd-eang o ddosbarthwyr.
- Cyflwyniad (sy'n cynnwys dolenni at ffilmiau am astudiaethau achos)
Os nad oeddech yn gallu mynychu sesiwn Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn un o'r sioeau teithiol a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am TXGB a sut y gallai fod o fudd i'ch busnes, ewch i Cynyddu gwerthiannau eich busnes.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall:
Ymchwil a Mewnwelediadau: