Beth yw Twristiaeth Gyfrifol?

Mae Twristiaeth Gyfrifol yn rhan o’n strategaeth Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025 lle ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er lles Cymru. Mae hyn yn golygu twf economaidd sy’n dod â buddion i bobl a lleoedd, gan gynnwys:

  • cynaliadwyedd amgylcheddol
  • cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol
  • a manteision iechyd.

Mae twristiaeth gyfrifol yn golygu gwneud lleoedd yn well i bobl fyw ynddynt ac yn well i bobl ymweld â hwy. Mae’n ymwneud â:

  • Lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd a diwylliant lleol.
  • Uchafu’r manteision economaidd i bobl leol.
  • Parchu a dathlu treftadaeth, iaith a thirweddau Cymru.
  • Annog teithio trwy gydol y flwyddyn sy’n cael effaith isel ac yn cefnogi cymunedau y tu hwnt i’r tymhorau brig.

Addo

Addo yw ein hymgyrch twristiaeth gyfrifol hirdymor, lle rydym yn annog ymwelwyr a phobl leol i addo gwneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr – i ofalu am ein tir, ein busnesau, ein cymunedau a’n gilydd.

Delwedd sy'n hyrwyddo bod yn ofalus gyda barbeciws a pheidio byth â chynnau tan ar y traeth.
Delwedd a ddarparwyd gan Croeso Cymru fel rhan o ymgyrch Addo.

Cymerwch ran

Dyma sut gallwch gefnogi ymgyrch Addo:

  • Anogwch eich ymwelwyr i fod yn ymwelwyr ystyriol a’u helpu i brofi hwyl Cymru’n ddiogel. Atgoffwch nhw i baratoi ar gyfer pob antur, boed glaw neu heulwen. Rhannwch rai o’r negeseuon diogelwch o’r adnoddau isod.
  • Rhannwch bostiadau cyfryngau cymdeithasol #Addo Croeso Cymru i gadw ymwelwyr yn wybodus.
  • Defnyddiwch logo Addo yn eich cynnwys marchnata perthnasol.
Delwedd sy'n hyrwyddo drwy adael gatiau fel y daethoch o hyd iddynt a cadw at lwybrau gyhoeddus, rydych chi'n gofalu am ein cefn gwlad.
Delwedd a ddarparwyd gan Croeso Cymru fel rhan o ymgyrch Addo.

Adnoddau

Straeon Perthnasol

Dyn yn edrych dros Gwm Elan.

Creu hwyl drwy Naws am Le

Yn ein Blwyddyn Croeso, mae'r ymgyrch hwyl yn dathlu croeso cynnes Cymru - gan wahodd ymwelwyr i brofi eiliadau llawen a theimlad dwfn o Gymreictod trwy'r holl synhwyrau.