Mae tîm cysylltiadau cyhoeddus Croeso Cymru yn cynnal perthnasoedd cryf a pharhaus â'r cyfryngau yn y DU ac yn rhyngwladol. Er bod gan newyddiadurwyr y DU wybodaeth dda am Gymru, mae Croeso Cymru yn parhau i'w cefnogi trwy ddarparu awgrymiadau teithiau wedi'u teilwra, rhannu'r newyddion a'r diweddariadau cynnyrch ac ateb eu cwestiynau’n gyflym.
Ar gyfer newyddiadurwyr rhyngwladol, ae Croeso Cymru yn trefnu teithiau’r wasg arbennig fel eu bod yn gallu profi profiadau unigryw Cymru eu hunain. Ar gyfer cyfryngau'r DU, rydym yn cynnig cefnogaeth ac adnoddau defnyddiol i'w helpu i ysgrifennu straeon cyffrous am Gymru, gan ddefnyddio’r wybodaeth, cysylltiadau a syniadau diweddaraf.
Uchafbwyntiau o rai o’r sylw diweddar yn y DU
Cafodd tîm cyfryngau Croeso Cymru haf prysur a chynhyrchiol, gan gydweithio'n agos ag amrywiaeth o brif gyfryngau'r DU i arddangos y gorau o Gymru.
- Dilynodd erthygl gan Daniel Stable yn National Geographic Traveler ymweliad â'r cyfryngau ym mis Mai 2025 – Darllenwch am "How to experience a slice of the Italian Riviera in Portmeirion" | National Geographic (Saesneg yn unig).
- Cymru yn cael sylw yng Nghylchgrawn DARKUS – Cylchgrawn ar-lein a phrint sy'n ymroddedig i bopeth sy'n ymwneud â cherddoriaeth, ffasiwn, harddwch a ffordd o fyw. Gyda chylchrediad print bob deufis o 55,000 o gopïau a dros 111,000 o ymwelwyr unigryw ar-lein, mae DARKUS yn cynnig llwyfan bywiog ar gyfer adrodd straeon diwylliannol. Darllenwch mwy yn DARKUS Magazine @darkusmagazine (Saesneg yn unig).
- Roedd rhifyn Gorffennaf 2025 o Gylchgrawn Coast yn ddathliad arbennig o Gymru, gyda'r rhifyn cyfan wedi'i gysegru i arddangos ein harfordir godidog, ein cymunedau bywiog, a'n profiadau unigryw i ymwelwyr. Bu tîm Croeso Cymru yn gweithio'n agos gyda'r tîm golygyddol, gan ddarparu syniadau ac ysbrydoliaeth i helpu i lunio'r cynnwys. Rydym yn falch o'n perthynas barhaus â Chylchgrawn Coast, sy'n parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â ni i rannu straeon Cymru gyda'u darllenwyr brwd. Cymerwch olwg ar yr erthygl "The 10 Best Marinas for Water Sports" - Coast Magazine. (Saesneg yn unig).
- Cafodd Cymru ei harddangos yn The Times ar 31 Mai 2025, mewn darn wedi'i guradu'n hyfryd o'r enw “24 Great Places to Stay in Wales.” Ysgrifennwyd yr erthygl gan James Stewart, newyddiadurwr teithio profiadol ac edmygydd hirdymor o Gymru, sydd wedi archwilio'r wlad yn helaeth dros y blynyddoedd. Darllenwch yr erthygl yn The Times: 24 GreatGreat Places to Stay in Wales.



Uchafbwyntiau o rai o'r darllediadau rhyngwladol diweddar
Diolch i newyddiadurwyr rhyngwladol, rydym wedi gweld sylw byd-eang gwych, gyda straeon am Gymru yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled y byd. Dyma rai o'r uchafbwyntiau:
- UDA
- Cafodd Neuadd Palé, Castell Powys, Neuadd Bodysgallen, Portmeirion, Neuadd Llangoed eu cynnwys fel lleoedd moethus i ymweld â nhw. Just Luxe "Croeso I Cymru, Welcome To Wales, And Follow Me In The Footsteps Of Nobility" (Saesneg yn unig).
- Canada
- Cafodd Llwybr Arfordirol Cymru sylw yn y Perceptive Travel. "Why You Should Walk the Southern Wales Coast Path"(Saesneg yn unig).
- Yr Iseldiroedd
- Cafodd Llwybr Pererin Gogledd Cymru sylw yn y Katholiek Nieuwsblad. "Historie en legendes komen samen op de 'Camino van Wales' - Katholiek Nieuwsblad" (erthygl wedi ei ysgrifennu mewn Iseldireg).