Ar 29 Ebrill 2025, cynhaliwyd Dathlu Cymru ym Mhafiliwn y DU yn Expo 2025, Osaka fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan 2025.
Profodd miloedd o ymwelwyr arddangosfa ymgolli, golygfeydd, synau a blasau Cymru mewn dathliad o greadigrwydd ac arloesedd – gyda pherfformiadau cerdd a dawns, samplau o fwyd a diod Cymreig a chomisiynau arbennig o grefftau Cymreig i ddathlu'r cysylltiad rhwng ein dwy genedl.
Cafodd ymwelwyr yr Expo gyfle unigryw hefyd i gasglu gasglu set arbennig o stampiau Eki sy'n cynnwys y Ddraig Goch, a ddyluniwyd gan y darlunydd Cymreig Jonathan Edwards, blasu bwyd a diod, a theimlo ffabrigau traddodiadol Cymru.



Cynhaliwyd perfformiadau gan gerddorion o Calan, Taf Rapids, a NoGood Boyo a'r criw dawns Qwerin y tu allan i'r Pafiliwn, gan ddenu torfeydd i ddathlu tapestri diwylliannol Cymru. Perfformiodd llysgennad ieuenctid yr Urdd a myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Owain Rowlands, fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o'r gân draddodiadol Japaneaidd, Furusato, ac ymunodd â Tim Rhys-Evans (cyfarwyddwr cerddorol y Coleg Cerdd a Drama) wrth iddo arwain y dorf o Japan i ganu Calon Lân. Gwnaeth Mistar Urdd ymddangosiad hefyd ochr yn ochr â masgot Expo 2025 Myaku-Myaku.
Bydd pob arddangosfa ddigidol yn arddangosfa Cymru yn cael ei bweru gan Raspberry Pi; y ddyfais gyfrifiadurol chwyldroadol, maint poced, sy'n cael ei chynhyrchu yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK yng Nghymru. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys negeseuon allweddol ynglŷn ag ymrwymiad Cymru i arloesedd cynaliadwy a Choedwig Genedlaethol Cymru, i gyd-fynd â dathliad 10fed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Croeso a Chestyll
Dathlodd tîm masnach teithio Croeso Cymru Flwyddyn Croeso gan ymweld â Himeji ac Osaka yn Japan, gan feithrin cysylltiadau newydd a chryfhau perthnasoedd sefydledig fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan.
Roedden nhw wrth eu bodd yn cymryd rhan yn Niwrnod Twristiaeth y DU gan VisitBritain yn Expo 2025 Osaka, lle cawsant gyfle i gysylltu ag aelodau allweddol o'r diwydiant teithio yn Japan. Ynghyd â phartneriaid Twristiaeth Gogledd Cymru ac Academi Saesneg Geltaidd (Sesneg yn unig), fe wnaethant arddangos popeth sy’n gwneud Cymru’n gyrchfan rhaid-i’w-weld.
Ymwelodd tîm masnach deithio Croeso Cymru hefyd â chastell hardd Himeji, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd wedi’i gefeillio â’n castell ein hunain yng Ngonwy. Cawsant y fraint o gyfarfod â chynrychiolwyr o Ganolfan Cyfnewid Rhyngwladol Dinas Himeji, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Masahiko Yokota.
Cymerodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ran mewn seremoni adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) rhwng Castell Himeji a Chastell Conwy ym mis Ebrill.
