Ers 2015 rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo Cymru drwy gyfres o themâu, gan gynnwys y blynyddoedd canlynol:
- Croeso 2025
- Llwybrau yn 2023
- Awyr Agored yn 2020
- Darganfod yn 2019
- Y Môr yn 2018
- Chwedlau yn 2017
- Antur yn 2016
Mae'r strategaeth yn cael ei gyrru gan Croeso Cymru mewn ymateb i heriau allweddol sy’n ei wynebu wrth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan. Mae'r blynyddoedd thematig yn helpu ein huchelgais hirdymor i ddatblygu brand cryfach a mwy diffiniedig yng Nghymru ac yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar fuddsoddi ac arloesi yn y maes twristiaeth gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwerth bob blwyddyn.
Yn y dolenni uchod byddwch yn gweld canllawiau ar gyfer y diwydiant gan gynnwys awgrymiadau a’r holl wybodaeth sydd ei hangen i gymryd rhan yn y thema.
2025Croeso2025: Blwyddyn Croeso
2025 fydd y Flwyddyn Croeso yng Nghymru, y ddiweddaraf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thematig o dan arweiniad Croeso Cymru.
Byddwn yn gwahodd y diwydiant twristiaeth i gydweithio’n agos â ni i ddarparu ein croeso cynnes Cymreig i’r byd a dathlu ein profiadau, ein cynnyrch, ein cyrchfannau a’n diwylliant eiconig y gall ymwelwyr ond eu canfod yma yng Nghymru.
Bydd rhagor o fanylion am ein cynlluniau o ran ymgyrch 2025 – a fydd yn cael eu cyflawni o dan ymbarél y flwyddyn thema – a manylion ynghylch sut y gallwch gydweithio â ni, yn cael eu darparu fel rhan o’n Mae gweminar marchnata Croeso Cymru.
Dewch yn ôl ar ôl y weminar am ganllawiau ar sut i weithio gyda ni, ac asedau.
2023YoT2023: Llwybrau Cymru.
Yn 2023 gwnaethom wahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i grwydro llwybrau epig Cymru, dros ddwy flynedd, wrth i ni ddangos yr hyn sydd ar gael - gan ddefnyddio llwybrau fel sbardun i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd.
Mae'r ymgyrch yn annog pobl i wneud y canlynol:
- dod o hyd i drysorau anghofiedig,
- croesawu teithiau o'r synhwyrau
- gwneud atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd.
O Monet (Amgueddfa Cymru) i'r mynydd, o'r arfordir i'r cestyll, mae llwybrau i bob busnes eu dilyn, a llawer i ymwelwyr ei fwynhau.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein pum thema flaenorol, mae "Llwybrau Cymru" yn anelu at ysbrydoli ein rhanddeiliaid, ein partneriaid a'r cyfryngau, i ddefnyddio'r thema fel ffordd o arddangos yr ystod lawn o gynnyrch sydd gan Gymru i'w gynnig.
Cafodd thema’r ymgyrch hon ei lansio hefyd yn dilyn Hydref hynod o broffil uchel a chyffrous i Gymru yn 2022, gyda Chwpan y Byd FIFA a misoedd lawer o weithgareddau (gan gynnwys teledu a fideo ar alw) gydag ymgyrch gwyliau'r Hydref a'r Gaeaf.
Ysbrydoliaeth ac Adnoddau
Mae canllawiau “Llwybrau”, logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel ar gael i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau: Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.