Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2026
Am yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Sentiment am Deithio
Mae'r Astudiaeth Dracio Ddomestig o Sentiment am Deithio yn astudiaeth fisol a gomisiynir gan Visit Britain, Visit Scotland a Croeso Cymru, gan ddarparu mewnwelediad cyfredol i fwriadau ac ymddygiad teithio yn y DU.
Mae’r ymchwil yn edrych ar:
- cynllunio teithiau a throsi
- teithiau a gymerwyd i Gymru
- nodweddion ymwelwyr
- rhwystrau i deithio, a’r
- rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Bwriadau teithio o’i gymharu â theithiau a gwirioneddol
Mae bwriadau teithio yn y DU yn parhau i fod yn uwch na’r nifer o deithiau a gymerwyd, gyda fawr ddim newid o flwyddyn i flwyddyn yn y bwlch hwn. Mae Lloegr yn dominyddu cyfaint teithiau’r haf, tra bod Cymru a’r Alban yn denu cyfrannau llai ond sefydlog. Gostyngodd cyfradd trosi Cymru o 60% yn 2024 i 40% yn 2025, gyda’r Alban hefyd yn gweld dirywiad. Mewn cyferbyniad, gwelodd Lloegr welliant.
Mae’r gyfradd drosi yn cyfeirio at gyfran y bobl a oedd yn bwriadu cymryd taith ac a wnaeth hynny mewn gwirionedd.
Y bwriadwyr Haf 2025 yng Nghymru
Roedd bwriadau i ymweld â Chymru yn haf 2025 yn canolbwyntio’n bennaf ar drefi arfordirol a chyrchfannau gwledig neu bentrefol. Mae teithio’n cael ei ysgogi gan awydd i dreulio amser gyda’r teulu ac i ymlacio, gyda gwestai a llety ar rent yn parhau i fod y dewisiadau mwyaf poblogaidd. Mae’r rhan fwyaf o deithwyr yn bwriadu teithio mewn car, ac mae hyd yr arhosiadau wedi cynyddu, gyda dros hanner yn bwriadu teithiau o bedair noson neu fwy.
Proffil y rhai a gymerodd deithiau yn Haf 2025
Roedd teuluoedd yn cyfrif am dros hanner (52%) o’r rhai a gymerodd deithiau haf i Gymru, cyfran uwch na chyfartaledd y DU ac yn uwch na 2024. Denodd Cymru lai o ymwelwyr iau a rhywfaint yn llai o ymwelwyr 65 oed o’i gymharu â’r llynedd.
Cyrchfannau yng Nghymru
Llandudno a Bae Colwyn a Sir Benfro oedd y cyrchfannau ymwelwyd â nhw fwyaf. Profodd Sir Gaerfyrddin dwf nodedig, gan gynyddu o 3% o’r teithiau yn 2024 i 10% yn 2025.
Teithiau a gymerwyd i Gymru
Cymerodd 8% o oedolion y DU daith i Gymru yn haf 2025, i lawr o 11% yn haf 2024.
Dewisiadau teithio tramor o gymharu â’r DU
Er bod bron i chwarter o oedolion y DU yn bwriadu teithio dramor yn haf 2025, dim ond 14% a wnaeth hynny, gyda’r bwlch yn debyg i 2024. Mae teithiau tramor yn cael eu hysgogi’n bennaf gan dywydd gwell, tra bod teithiau o fewn y DU yn cael eu ffafrio oherwydd rhwyddineb cynllunio, costau is a chyfnodau teithio byrrach.
Rhwystrau a chostau byw
Mae rhwystrau ariannol i deithio wedi llacio, gyda chost yn cael ei nodi gan 28%, i lawr o 45% yn 2024. Fodd bynnag, dywedodd dros hanner y rhai sy’n bwriadu ymweld â Chymru fod argyfwng costau byw yn debygol o ddylanwadu ar wyliau yn y dyfodol, yn enwedig drwy ddewis llety rhatach, chwilio am weithgareddau am ddim a gwario llai ar fwyta allan.
Wrth edrych ymlaen
Mae bwriadau ar gyfer yr hydref a’r gaeaf yn parhau’n sefydlog, gyda Chymru’n dal cyfran o 8%, er bod lefelau archebu’n is na rhai Lloegr a’r Alban. Mae Caerdydd ac Abertawe yn boblogaidd ar gyfer teithiau’r hydref, tra bod Eryri (Snowdonia) a Chymoedd De Cymru yn arwain ar gyfer y gaeaf.
Gellir dod o hyd i’r adroddiad hwn yma: Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth: adroddiad proffil Cymru Haf 2025 | LLYW.CYMRU