Mae golff yn cyd-fynd â chynnig craidd Cymru, yn unol â gweledigaeth y brand ac yn gwella lles cymunedau preswyl Cymru.
Mae ymwelwyr yn ffynhonnell refeniw hanfodol i glybiau golff. Yn ogystal â’r incwm a ddaw yn sgil ffioedd gwyrdd, mae ymwelwyr yn tueddu i wario mwy nag aelodau ar fwyd a diod; ac os oes gan y clwb lety, efallai y bydd ymwelwyr yn aros dros nos. Gellir defnyddio incwm a ddaw o ymwelwyr i ailfuddsoddi yn y clwb, a gall incwm o’r fath helpu i gadw ffioedd aelodaeth ar lefel resymol.
Mae’r mwyafrif o glybiau’n awyddus i ddenu rhagor o ymwelwyr, oherwydd maent yn cydnabod pa mor bwysig yw’r refeniw a gynhyrchir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys yr haf hyd yn oed, pan geir diwrnodau hirach a mwy o amser i chwarae golff.
I’r mwyafrif o glybiau, mae bron pob un o’u hymwelwyr (dros 95%, fel arfer) yn dod o’r DU, yn bennaf o Loegr. Mae hyn yn wir hyd yn oed am glybiau uwch eu bri. Y prif dymor yw Ebrill-Hydref. Ychydig o ddiddordeb sydd gan glybiau a chwaraewyr fel ei gilydd mewn gwyliau golff yn ystod y gaeaf.
Mae grwpiau mawr neu bobl sy’n teithio o bell, yn enwedig o wledydd tramor, yn fwy tebygol o ddefnyddio trefnwyr teithiau. Po agosaf a pho leiaf yw’r grwpiau, po fwyaf tebygol ydynt o wneud trefniadau’n uniongyrchol. O’r herwydd, mae trefnwyr teithiau’n bwysig i glybiau sy’n dymuno bwrw’u rhwyd yn eang a denu nifer fawr o ymwelwyr.
Darllenwch yr adroddiad llawn am ragor o fanylion ar:
- Alw ac allu twristiaeth golff yng Nghymru
- Cryfderau a gwendidau’r cynnig twristiaeth golff presennol
- Rhwystrau a chyfleoedd i dyfu twristiaeth golff
Gellir dod o hyd i’r adroddiad yma: Research on demand and capacity for golf tourism | GOV.WALES.
Wrth gyfuno ein harddwch naturiol, ein cyrsiau prydferth a’n clybiau golff gwych ag arlwy o fwyd a llety o safon uchel, mae Cymru’n cynnig profiad golffio delfrydol.Edrychwch ar ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau rŵnd o golff tra’n crwydro Cymru.