Diolch i'r holl fusnesau a'r sefydliadau hynny a ddaeth i Sioeau Teithiol rhanbarthol Croeso Cymru. Roedd llawer wedi mynychu'r pedwar digwyddiad ac ym mhob un rhannom wybodaeth am:

  • Y prosiectau buddsoddi diweddaraf 
  • Cynlluniau marchnata strategol ac offer hawdd eu defnyddio i randdeiliaid 
  • Sut y gall Digwyddiadau Cymru weithio gyda'r diwydiant i sicrhau amrywiaeth o ddigwyddiadau 
  • Y canfyddiadau ymchwil a mewnwelediadau diweddaraf

Roedd cyfle hefyd i glywed oddi wrth Gadeiryddion pob un o'r Fforymau Twristiaeth Ranbarthol, a rhoddodd siaradwyr gwadd o'r diwydiant gyflwyniadau rhagorol yr oeddem yn falch o gael eu recordio. Bydd cynnwys y cyflwyniadau hynny, yn ogystal â bod o ddiddordeb yn rhanbarthol, hefyd o ddiddordeb i lawer o randdeiliaid ledled Cymru.

Y cyflwyniadau a wnaed yn ystod y sioeau teithiol

Gallwch wylio'r cyflwyniadau a wnaed yn ystod y sioeau teithiol a gwrando ar recordiadau o'r siaradwyr gwadd rhanbarthol isod:

Pynciau trafod y panel Holi ac Ateb

Sesiynau trafod y prynhawn

Digwyddiadau Cymru 

Edrych ar gyfraniad digwyddiadau i flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys twristiaeth - cyfleoedd, heriau a'r dyfodol.

Ffilm arddangos Digwyddiadau Cymru

Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) 

Sut i gael rhagor o archebion a chyrraedd cwsmeriaid newydd gyda TXGB - y platfform sy'n cysylltu systemau archebu twristiaeth y DU neu rhestr eiddo eich hun â rhwydwaith byd-eang o ddosbarthwyr.

  • Cyflwyniad (sy'n cynnwys dolenni at ffilmiau am astudiaethau achos)

Os nad oeddech yn gallu mynychu sesiwn Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn un o'r sioeau teithiol a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am TXGB a sut y gallai fod o fudd i'ch busnes, ewch i Cynyddu gwerthiannau eich busnes.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall:

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw