Cynllun hygyrchedd newydd ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru
Mae Croeso i Bawb yn gynllun newydd. Bydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch i greu amgylchedd ymwelwyr mwy hygyrch a chynhwysol.
Bydd y cynllun yn ariannu gwelliannau ffisegol sy'n dileu rhwystrau i ymwelwyr. Gall y newidiadau hyn wneud ymweliadau yn haws i bobl sydd ag ystod eang o anghenion.
Mae'r cynllun yn annog busnesau i fynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol. Mae'n cefnogi newidiadau ymarferol sy'n gwella mynediad a chynhwysiant.
Crëwyd y cynllun hwn mewn cydweithrediad â PIWS, sefydliad nid-er-elw yng Nghymru. Dywedodd Davina Carey-Evans, o PIWS:
Yn PIWS, rydym yn falch o gyfrannu ein harbenigedd o ran profiad bywyd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn. Mae'r gwelliannau hygyrchedd mwyaf effeithiol yn dod o wrando ar bobl anabl a defnyddio eu mewnwelediad i greu amgylcheddau arloesol, cynhwysol.Nid gofyniad cyfreithiol yn unig yw hygyrchedd; mae'n fuddsoddiad strategol. Drwy fuddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau hygyrch, gall busnesau twristiaeth wella boddhad cwsmeriaid, cefnogi a chadw staff, denu marchnadoedd newydd, a chynhyrchu enillion mesuradwy ar fuddsoddiad, tra'n helpu i wneud Cymru yn gyrchfan wirioneddol groesawgar i bawb.
Bydd cyllid ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf. Rhaid i'r prosiectau hyn wella mynediad at gyfleusterau twristiaeth a lletygarwch. Y nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo bod Cymru yn lle croesawgar.
Pam mae hygyrchedd yn bwysig
- Mae ymwelwyr anabl a'u cymdeithion yn cyfrif am oddeutu chwarter yr ymwelwyr â Chymru.
- Mwy na £1.1bn o wariant ymwelwyr yn 2024.
- Gallai twristiaeth hygyrch dyfu ymhellach os caiff rhwystrau eu dileu.
- Mae 83% o bobl anabl wedi penderfynu peidio ag ymweld â busnes oherwydd ei fod yn ymddangos yn anhygyrch neu'n angroesawgar.
- Mae tua 25% o deithiau gwyliau dros nos i Gymru yn cynnwys rhywun sydd ag amhariad neu angen mynediad.
Mae hygyrchedd yn ymwneud â mwy na mynediad corfforol. Mae gan ymwelwyr anghenion gwahanol. Gall y rhain ymwneud â symudedd, golwg, clyw, prosesu synhwyraidd neu niwroamrywiaeth.
Mae Croeso i Bawb yn annog busnesau i feddwl am hygyrchedd ar bob cam o daith yr ymwelydd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i wybodaeth, archebu, cyrraedd, mwynhau'r profiad a dychwelyd adref.
Mae gwella hygyrchedd yn helpu mwy o bobl i fwynhau Cymru yn hyderus, gan gynnwys:
- ymwelwyr anabl,
- pobl hŷn,
- teuluoedd â phlant ifanc,
- a pobl sy'n gwella o salwch neu anaf.
Trwy wella hygyrchedd, gall busnesau:
- Gyrraedd marchnadoedd ymwelwyr newydd a rhai sy’n tyfu
- Wella boddhad a ffyddlondeb cwsmeriaid
- Wella eu henw da fel cyrchfannau croesawgar a chynhwysol
- Ddarparu manteision i ymwelwyr ac i gymunedau lleol
Darganfyddwch ganllawiau ymarferol, syniadau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i greu profiadau mwy cynhwysol a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig - Hybu twristiaeth yng Nghymru. Creu profiadau i bawb | Diwydiant
Beth allai'r cynllun ei gefnogi?
Rydym yn croesawu syniadau beiddgar a dyfeisgar, yn ogystal â gwelliannau ymarferol syml, a all helpu i wneud profiadau ymwelwyr yn fwy hygyrch, cynhwysol a phleserus i bawb. Gall enghreifftiau o welliannau posibl gynnwys:
- Ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi hygyrch
- Lifftiau platfform neu risiau / Gwell mynediad di-risiau
- Drysau awtomatig neu ddrysau mwy llydan
- Mannau croesawu sy’n fwy hygyrch
- Cyfleusterau cymorth clyw gwell
- Toiledau Changing Places a chyfleusterau cysylltiedig
- Seddi awyr agored hygyrch, mannau gwylio a llwybrau ymwelwyr
- Gwell cyfeirnodi drwy arwyddion clir a hygyrch, gan gynnwys nodweddion cyffyrddadwy ac amryliw
- Mannau tawel neu gyfeillgar i’r synhwyrau i gefnogi ymwelwyr sy’n elwa o amgylchedd mwy tawel
- Mannau picnic hygyrch, pwyntiau gwybodaeth i ymwelwyr a nodweddion dehongli
- Addasiadau i fannau hamdden, gweithgareddau neu brofiad ymwelwyr i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan a mwynhau’r profiad
- Parcio hygyrch a llwybrau gwell rhwng meysydd parcio a chyfleusterau ymwelwyr
- Gwelliannau ffisegol sy'n cefnogi ymwelwyr sydd â gofynion mynediad gweledol, clyw, symudedd neu niwroamrywiol
- Gwelliannau cyfalaf eraill sy'n dileu rhwystrau ac yn creu profiad ymwelwyr mwy cynhwysol
Bydd y cynllun yn helpu busnesau i wneud gwelliannau ymarferol, o ansawdd uchel. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at brofiadau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru a chymryd rhan ynddynt yn llawn.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
Mae chwarter yr holl ymwelwyr â Chymru yn anabl; os yw Cymru'n dweud 'croeso' i'r byd, ni all y gair hwnnw ddod gyda phrint mân - mae'n rhaid i'r croeso i Gymru fod yn real i bawb.Mae'n rhaid ei fod yn wir i ymwelwyr anabl, ymwelwyr niwroamrywiol a phobl â chyflyrau a rhwystrau cudd. Dyna pam rydyn ni'n lansio Croeso i Bawb, i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i agor eu drysau yn ehangach fyth. Mae bod yn hygyrch yn dda i fusnesau, ond, yn fwy na hynny, mae'n rhan annatod o ystyr 'lletygarwch'.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i adran Croeso i Bawb ar y dudalen gyllido:
- Meini prawf cymhwysedd
- Proses a ffurflen ymgeisio
- Amserlenni
- Lefelau cyllido
- Enghreifftiau o brosiectau cymwys
Mae cynllun Croeso i Bawb yn gyfle cyffrous i helpu i wneud Cymru yn gyrchfan hyd yn oed yn fwy croesawgar i bawb sy'n ymweld â hi.