Cyfleoedd Cyllido Newydd yn dod yn fuan

Mae Croeso Cymru yn lansio dau gynllun cyllido newydd. Maent yn cefnogi datblygiad profiadau ymwelwyr o ansawdd uchel ledled Cymru.  

Croeso i Feicwyr 

Bydd y cynllun hwn yn 

  • cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyrchfannau beicio a mannau allweddol i ymwelwyr,  

  • helpu i gryfhau apêl Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth feicio. 

Croeso i Bawb

Bydd y cynllun hwn yn helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i 

  • wella hygyrchedd a chynhwysiant,  

  • greu amgylchedd mwy croesawgar i ymwelwyr a all fod ag ystod eang o anghenion mynediad. 

Gallwch ddarllen mwy am y cronfeydd isod. Bydd yr holl wybodaeth am sut y gall diwydiant gael mynediad i'r cyfleoedd hyn ar gael yn fuan. 

  • Croeso i Feicwyr

    Bydd cynllun Croeso i Feicwyr yn helpu i wneud Cymru'n gyrchfan feicio fwy deniadol. Bydd yn cefnogi profiadau ymwelwyr, mannau allweddol ar gyfer beicwyr ac ymwelwyr ymroddedig sy'n dewis beicio fel rhan o'u taith.

    Bydd y gronfa hon yn agored i:

    • Awdurdodau Lleol
    • Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol

    (Anogir y ddau i gynnwys prosiectau a gyflwynir gan y trydydd sector a sefydliadau dielw eraill yn eu ceisiadau)

  • Croeso i Bawb

    Cynllun Hygyrchedd Newydd ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch yng Nghymru

    Mae Croeso i Bawb yn gynllun newydd gan Croeso Cymru. Bydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch i greu amgylchedd ymwelwyr mwy hygyrch a chynhwysol.

    Bydd y cynllun yn ariannu gwelliannau ffisegol sy'n dileu rhwystrau i ymwelwyr. Gall y newidiadau hyn wneud ymweliadau yn haws i bobl sydd ag ystod eang o anghenion.

    Mae'r cynllun yn annog busnesau i fynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol. Mae'n cefnogi newidiadau ymarferol sy'n gwella mynediad a chynhwysiant.

    Bydd cyllid ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf. Rhaid i'r prosiectau hyn wella mynediad at gyfleusterau twristiaeth a lletygarwch. Y nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo bod Cymru yn lle croesawgar. 

    Pam mae Hygyrchedd yn Bwysig

    Mae tua 25% o deithiau gwyliau dros nos i Gymru yn cynnwys rhywun sydd ag amhariad neu ofyniad mynediad.

    Mae gwella hygyrchedd yn helpu mwy o bobl i fwynhau Cymru yn hyderus, gan gynnwys:

    • ymwelwyr anabl,  
    • pobl hŷn,  
    • teuluoedd â phlant ifanc,  
    • a pobl sy'n gwella o salwch neu anaf.

    Trwy wella hygyrchedd, gall busnesau:

    • Gyrraedd marchnadoedd ymwelwyr newydd a rhai sy’n tyfu  
    • Wella boddhad a ffyddlondeb cwsmeriaid
    • Wella eu henw da fel cyrchfannau croesawgar a chynhwysol
    • Ddarparu manteision i ymwelwyr ac i gymunedau lleol 

    Beth allai'r cynllun ei gefnogi?

    Er bod y manylion llawn yn dal i'w cwblhau, gall enghreifftiau o welliannau posibl gynnwys:

    • Ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi hygyrch
    • Lifftiau platfform neu risiau / Gwell mynediad di-risiau
    • Drysau awtomatig neu ddrysau mwy llydan
    • Mannau croesawu sy’n fwy hygyrch
    • Cyfleusterau cymorth clyw gwell
    • Toiledau Changing Places a chyfleusterau cysylltiedig
    • Seddi awyr agored hygyrch, mannau gwylio a llwybrau ymwelwyr
    • Gwell cyfeirnodi drwy arwyddion clir a hygyrch, gan gynnwys nodweddion cyffyrddadwy ac amryliw
    • Mannau tawel neu gyfeillgar i’r synhwyrau i gefnogi ymwelwyr sy’n elwa o amgylchedd mwy tawel
    • Mannau picnic hygyrch, pwyntiau gwybodaeth i ymwelwyr a nodweddion dehongli
    • Addasiadau i fannau hamdden, gweithgareddau neu brofiad ymwelwyr i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan a mwynhau’r profiad
    • Parcio hygyrch a llwybrau gwell rhwng meysydd parcio a chyfleusterau ymwelwyr
    • Gwelliannau ffisegol sy'n cefnogi ymwelwyr sydd â gofynion mynediad gweledol, clyw, symudedd neu niwroamrywiol
    • Gwelliannau cyfalaf eraill sy'n dileu rhwystrau ac yn creu profiad ymwelwyr mwy cynhwysol

    Bydd y cynllun yn helpu busnesau i wneud gwelliannau ymarferol, o ansawdd uchel. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at brofiadau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru a chymryd rhan ynddynt yn llawn. 

    Rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan

    Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu drwy e-gylchlythyr penodol Croeso i Bawb ar:

    • Meini prawf cymhwysedd
    • Proses ymgeisio
    • Amserlenni
    • Lefelau cyllido
    • Enghreifftiau o brosiectau cymwys 

    Derbyniwch y diweddariadau diweddaraf

    Mae cynllun Croeso i Bawb yn gyfle cyffrous i helpu i wneud Cymru yn gyrchfan hyd yn oed yn fwy croesawgar i bawb sy'n ymweld.  

    Os oes diddordeb gennych chi mewn derbyn rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut y gall eich busnes elwa cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y Diwydiant 

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Diwydiant yn fuan.

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y diwydiant

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth er mwyn derbyn y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf.

Straeon Perthnasol

Beddgelert ar y Brailsford Way, Gogledd Cymru

Le Tour de France yn dod i Gymru

Sut y gall busnesau twristiaeth fanteisio i’r eithaf ar Le Tour de France 2027 a helpu i adeiladu etifeddiaeth barhaol ar gyfer beicio yng Nghymru.

Gŵyr, Gorllewin Cymru

Croesawu beicwyr: Newidiadau bach, effaith fawr

Gall pethau syml fel storfa ddiogel i feiciau, mannau ail-lenwi poteli dŵr a rhannu gwybodaeth am lwybrau lleol wneud gwahaniaeth mawr. Y nod yw sicrhau bod beicwyr yn teimlo eu bod yn cael croeso cynnes ac yn cael eu hannog i aros yn hirach.